Sion Gwynedd (John Gwynneth)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Offeiriad a cherddor blaenllaw yn Oes y Tuduriaid oedd Siôn Gwynedd (1490? – 1562?). Roedd yn frodor o Sir Gaernarfon: mab David ap Llewelyn ab Ithel o Lŷn, oedd yn frawd i Robert ap Llewelyn ab Ithel, Castellmarch.

Credir iddo gael ei addysg yn rhai o’r sefydliadau mynachaidd yn agos i’w gartref, ac oddi yno, trwy gymorth noddwr cefnog, llwyddodd i barhau â’i addysg yn Rhydychen. Cafodd ei ordeinio’n offeiriad. Yn 1531 apeliodd yn llwyddiannus am radd Mus. Doc., Rhydychen, gan gyflwyno nifer o gyfansoddiadau cerddorol ar gyfer gwasanaethau’r eglwys.

Pan fu farw Dr William Glyn, Rheithor Clynnog Fawr yn Arfon, penododd y brenin Harri VIII Siôn Gwynedd yn olynydd iddo. Ond gwrthododd yr Esgob John Capon, Bangor, gadarnhau’r penodiad. Mynnai ef benodi Gregory Williamson i’r swydd: perthynas i Cromwell, Iarll Essex. Ymgyfreithiodd Siôn Gwynedd â’r Esgobion. Enillodd ei achos yn 1541 ar ôl blynyddoedd o ymladd. Costiodd £300 iddo. Mae’n debyg nad arhosodd yn hir yng Nghlynnog gan iddo dderbyn rheithoriaeth Eglwys Sant Pedr, Cheapside, Llundain gan ddechrau yno ar 19 Medi 1543. Yn 1554 roedd yn rheithor Luton, Swydd Bedford.

Yn ystod ei fywyd bu’n dadlau o blaid Pabyddiaeth. Ysgrifennodd mewn ymateb i lyfrau John Frith oedd o blaid y Diwygiad Protestannaidd. John Frith oedd y merthyr cyntaf o blith y Protestanniad yn Lloegr.

Credid i Siôn Gwynedd gael ei garcharu am wrthod troi ei gefn ar y Ffydd Gatholig ac iddo farw tua 1562 yn ystod teyrnasiad y frenhines Elisabeth(1558-1603).* Ond mewn ffynonellau diweddarach credid iddo farw cyn diwedd teyrnasiad y Frenhines Mari. (1553-1558).*

Roedd gan Yr Athro John Lloyd Williams ddiddordeb mawr yng ngyrfa gerddorol Siôn Gwynedd a neilltuodd 12 tudalen iddo yn ei lyfr poblogaidd Y Tri Thelynor*. Dyma un dyfyniad o'r llyfr hwnnw: Yn 1530 anturiodd Wynkyn de Worde, olynydd Caxton - yr argraffydd cyntaf ym Mhrydain - ar y gwaith o argraffu'r casgliad cyntaf yn y wlad* o ranganau (Yr oedd dalennau wedi eu hargraffu ychydig cynt, ond hwn oedd y casgliad cyntaf). Cynhwysai ugain o ddarnau, rhai i dri llais, a'r gweddill i bedwar. Ymysg y cyfansoddwyr yr oedd Siôn Gwynedd a Robert Jones, y Cyntaf. (Ni wyddys yn sicr pa un ai Cymro ynteu Sais oedd ef). Gwelir nad bychan o beth oedd i'r Cymro o Lŷn gael ei waith i gasgliad â'r fath arbenigrwydd yn perthyn iddo - y mae'n braw yr ystyriai'r cyhoeddwr Siôn Gwynedd yn un o brif gerddorion Prydain, a'i waith yn deilwng o'r unig gasgliad o'r fath yn y wlad.


Ffynonellau[golygu]

  • Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Nid yw ar gael ar-lein hyd at ddiwedd yr Haf 2018 gan ei fod yn cael ei ddiweddaru gan GANOLFAN UWCHEFRYDIAU CYMREIG A CHELTAIDD PRIFYSGOL CYMRU A Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Dyma’r Bywgraffiadur cyfredol: http://yba.llgc.org.uk/cy/c-GWYN-JOH-1490.html
    • Dictionary of National Biography, 1885-1900, Cyfrol 23. John Gwynneth gan Thompson Cooper. Gwynneth, John (DNB00) - Wikisource, the free online library https://en.wikisource.org/wiki/Gwynneth,_John_(DNB00)html
      • Cwmni Cymraeg Foyle, Cyf., (Cyhoeddwyr) 121 Charing Cross Road, Llundain, WC2 Argraffwyd gan The Castle Press, Aberystwyth.
        • Golygir Prydain.