Seiat Fethodistaidd Bryngadfa

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Yn dilyn taith bregethu gyntaf Howel Harris i Lŷn ac Eifionydd ym 1741 sefydlwyd nifer o seiadau Methodistaidd bychain yn yr ardal er gwaethaf erledigaeth lem. Un o'r mannau lle sefydlwyd seiat gynnar oedd ffermdy Bryngadfa ym mhlwyf Llanaelhaearn. Roedd gwreiddiau'r seiat hon yn mynd yn ôl i fferm Glasfryn Fawr ym mhlwyf Llangybi, lle cafodd William Pritchard, y ffermwr, droedigaeth yn dilyn ymweliad Harris â'i gartref ym 1741. Gwas William Pritchard ar y pryd oedd Robert Owen, ac fe drodd yntau at y Methodistiaid ar ôl clywed ei feistr yn gweddïo yn y beudy. Erbyn 1742 roedd yr erlid ar y garfan fechan o Fethodistiaid yn yr ardal yn dwysáu a bu'n rhaid i William Pritchard symud i fyw i Fôn. Ond symudodd yr achos i fferm Helyg Irion gerllaw, cartref Robert Owen. Fodd bynnag, ymhen ychydig flynyddoedd erlidiwyd Robert Owen o'r Helyg Irion ac aeth i Fryngadfa ym mhlwyf Llanaelhaearn. Bu'r seiat yn cyfarfod ym Mryngadfa am rai blynyddoedd a galwai pregethwyr teithiol yno'n achlysurol i gynnal oedfa. Hefyd sonnir i Gyfarfod Misol gael ei gynnal yno ym 1769. Ym 1789 symudodd Robert Owen o'r ardal ac ymgartrefu yn ardal Llannor, lle'i claddwyd ar 22 Mawrth 1790. Gyda'i ymadawiad â Bryngadfa, credir i'r ychydig aelodau a oedd yn y seiat yno symud i addoli i achos cynnar arall, sef Brynengan, wrth droed Mynydd Cennin, capel sy'n dal yn agored o hyd.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Goronwy P. Owen, Methodistiaeth Llŷn ac Eifionydd, (Cyhoeddwyd gan Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd, 1978), tt. 42, 91-92.