Sarn Wyth-dŵr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Sarn Wyth-dŵr oedd enw'r sarn ger Plas Dorothea a groesai o un ochr i Ddyffryn Nantlle i'r llall, i'r de o safle Plas Tal-y-sarn, ar yr hen ffordd o bentref Llanllyfni a Tan'rallt i ardal Baladeulyn, lle mae pentref Nantlle yn awr. Mae'r enw "Tal-y-sarn" ei hun yn dyst i fodolaeth Sarn Wyth-dŵr. Sarn yw'r gair am arglawdd a godwyd i ganiatáu i bobl dramwyo'r ffordd ar draws mannau corsiog, ac mae yna le i gredu bod wyth cwlfert neu sianel yn rhedeg o dan y ffordd ger y bont ar draws yr afon, pont a elwir yn Bont Sarn Wyth-dŵr.

Wedi i ddŵr dorri i mewn i dwll mawr Chwarel Dorothea ac i Lyn Nantlle Isaf gael ei sychu - ac wedi i ran o'r hen ffordd o bentref Tal-y-sarn i gyfeiriad Nantlle gwympo i dwll yr ochr arall i'r chwarel - adeiladwyd ffordd newydd sbon ar linell newydd ar hyd y dyffryn yn y 1920au. Mae lôn gefn Petris yn rhan o'r hen lôn a redai ar draws y sarn, ond mae bron pob arwydd o'r sarn gynt wedi diflannu o dan domennydd llechi, a'r ffordd ei hun ar gau dros yr hen bont.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]