Sant John Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Ganwyd Sant John Jones yng Nghlynnog Fawr yn ystod y flwyddyn 1530. Fe'i elwid weithiau'n Griffith Jones, John Herberd a John Buckley yn ystod ei yrfa.

Roedd ei rieni yn Gatholigion reciwsantaidd, a buont yn Gatholigion teyrngar trwy gydol ac er gwaethaf y Diwygiad Protestannaidd. Yn ystod ei ieuenctid, fe gredir iddo addoli yn Eglwys Sant Beuno yng Nghlynnog Fawr cyn ymuno â Mynachlog Ffransisgaidd yng Ngreenwich. Bod yn ‘Gatholig’ yng ngwir ystyr y gair oedd pwrpas mawr ei fywyd.

Ar ôl ail ddiddymiad y Mynachlogydd yn 1559, fe deithiodd Sant John Jones i’r Cyfandir, a phroffesodd yn Pontoise, Ffrainc, mynachlog o Urdd y Ffransisgiaid. Yn dilyn hyn, fe deithiodd i Rufain ac aros ym Mynachlog Ara Coeli ble ymunodd â Thalaith Rufeinig y Reformati. Yn 1591, cafodd fendith arbennig a chymeradwyaeth gan Y Pab Clement VIII i fynd ar genhadaeth i Loegr. Erbyn diwedd 1592, roedd wedi cyrraedd Llundain, ac arhosodd am gyfnod â’r Tad John Gerard. Cafodd ei ethol yn Bennaeth Taleithiol gan ei gyd-fynachod.

Mae'r Esgob Daniel Mullins wedi ysgrifennu amdano fel a ganlyn:[1]:

"Gwir enw’r gŵr oedd Griffith Jones.... Clynnog Fawr yn Arfon oedd Eglwys Sant Beuno o’r seithfed ganrif, ac fe ddaeth yn fynachlog i’r Benedictiaid ac i’r Carmeliaid yn eu tro. Ger y capel lle cedwid llwch corff Sant Beuno, cododd Harri Tudur yr eglwys golegol ysblennydd sydd yn un o ragoriaethau pensaernïol ein gwlad. Cyn hir wedyn daeth taw ar offerenna a phaderu yn y lle, ond parhaodd olion y ffydd yn hir iawn yng Nghlynnog. O’r pentre bach hwn y daeth Wiliam, brawd John, i fod yn un o brif wyr Urdd y Benedictiaid yng nghyfnod diwygiad mawr yr urdd honno, ac yn sefydlydd Mynachlog Cambrai. O’r un pentref y daeth, rai blynyddoedd ynghynt, Dr. Morus Clynnog a benodwyd, ym 1578, yn Rheithor Cyntaf yr Athrofa Seisnig newydd i offeiriaid yn Rhufain. (Bu ond y dim i Morus Clynnog lwyddo i droi’r Athrofa Seisnig yn Athrofa Gymreig, a phwy a wyr pa wahaniaeth fyddai hynny wedi ei wneud i hanes ein gwlad.) Yr oedd nai i Morus Clynnog, y Tad Morgan Clynnog, a oedd ychydig yn hyn na Griffith a Wiliam Jones, i fod yn offeiriad i Babyddion Cymru am 37 o flynyddoedd, ac i’w enwebu yn Esgob Cymru gyfan yn 1615.
"Ni fu unrhyw urdd o fynaich yn debycach i rai oes y saint na’r Ffransisgiaid o ran eu brwdfrydedd a’u tlodi, ac fe ddylanwadwyd ar Sant Ffransis ei hun gan y meudwyon Celtaidd hynny. Roedd yn briodol felly i un o’r brodyr o Glynnog ymuno ag Urdd Sant Ffransis ac felly y gwnaeth Griffith, yn Ffrainc. Cyn hir fe’i hurddwyd yn offeiriad, yng nghapel mynachlog Pontoise yn ôl pob tebyg, ac yna aeth i Rufain. Yno fe wnaeth tlodi ac ymroad y Ffransisciaid myfyriol (aelod o Urdd y Ffransisciaid Cwfeintiol oedd Griffith ar y pryd) y fath argraff arno nes iddo fynnu ymuno â nhw ym 1591. Flwyddyn yn ddiweddarach, cynigiodd ymuno â’r "Genhadaeth i Loegr" ac fe’i derbyniwyd gan y Pab Clement VIII mewn cyfweliad arbennig cyn iddo ymadael. Roedd yn rhaid iddo roi’r gorau i wisg lwyd yr urdd, a’r sandalau, er mwyn cuddio’i swydd erbyn cyrraedd Lloegr. Wedi hynny fe’i hadwaenid wrth yr enw John Buckley neu John Herberd. Cyrhaeddodd Lundain ac wedyn fe deithiodd i’r gogledd, efallai ar ei ffordd yn ôl i Wynedd. Fodd bynnag fe’i restiwyd yn swydd Stafford a’i garcharu ym 1594. Dair blynedd wedyn fe’i trosglwyddwyd i Lundain, i’r Marshalsea. Yno cafodd wneud peth gwaith bugeiliol gan y cyrchai llawer ato. Fe ddygwyd gau-dystion i ddweud iddynt gynorthwyo’r Tad John i ganu’r Offeren yn y carchar ac fe’i condemniwyd i farwolaeth. Yn ddiweddarach profwyd nad oedd y bobl hynny yn y ty am eu bod yng ngharchar ar y pryd. 
"Cafodd ei arteithio a'i ddienyddio ar Orffennaf 12, 1598, ryw ddwy filltir y tu allan i Lundain. Roedd hyd yn oed y dorf fawr yn Llundain o blaid y brawd hwn o Gymro, ac fe wrthodwyd gadael i’r cert gael ei dynnu oddi tano nes iddo orffen siarad. Wrth ei glywed yn ailadrodd dro ar ôl tro, "Iesu tirion, trugarha wrth fy enaid", gwawdiodd rhyw Is-farsial ef am iddo anghofio’r Forwyn Fair. Yna ategodd y Tad John, "Bendigaid Frenhines y Nefoedd, bydd yn eiriolwr drosof a gweddïa drosof yr awr hon ac yn dragywydd". Wedi ei ddienyddio, gosodwyd ei chwarteri ar bedair coeden gerllaw’r ffordd fawr, ond credir i un gael ei ddwyn i’r Mynachdy Ffransiscaidd yn Pontoise. Fe osodwyd ei ben ar bolyn, ond fe ddaeth cymaint o bobl i’w weld nes i rai swyddogion ei dynnu i lawr mewn deuddydd a’i anharddu â’u hewinedd a chyda phowdr-gwn."
Yn Atlas Sir Gaernarfon ceir cyfeiriad at y ffaith fod Maesog, Capel Uchaf, Clynnog, wedi dal i gynnal gwasanaethau Pabyddol pan oedd hi'n anghyfreithiol i wneud hynny.
  1. Daniel Mullins,Chwech o’n Merthyron sef hanes y chwech sydd i’w canoneiddio gan y Pab yn Rhufain ar Hydref 25, 1970. Wedi ei seilio ar Six Welsh Martyrs gan Dom Julian Stonor, O.S.B. a’r Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940", Y Cylch Catholig, (1970)