Samuel Holland

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search
Samuel Holland, Esq., of Caerdeon (1803–1892) by Hugh Carter (1837–1903).jpg

Samuel Holland (1803-1892) oedd y gŵr a gyflogodd Trefor Jones yn Chwarel y Gwylwyr, Nefyn, fel Fforman. Maes o law, daeth Trefor Jones dros yr Eifl ac agor Chwarel yr Eifl yn Nhrefor a rhoi ei enw ei hun ar y pentref.

Un o Lerpwl oedd Samuel Holland a bu ei dad (o'r un enw) yn hapfasnachwr llwyddiannus gan weithio gwaith copor ym Mronygadair ger Tremadog 1824-30. Ym 1819 agorodd chwarel lechi Rhiwbryfdir yn ardal Ffestiniog, a chwarel arall yn Nhrefriw ym 1826. Ei wraig oedd Katherine Menzies.

Eu mab hwy oedd Samuel Holland yr erthygl hon, a anwyd ar 17 Hydref, 1803, yn Duke Street, Lerpwl. Roedd Samuel yn gefnder i Elizabeth Cleghorn Gaskell (1810-65), cofiannydd Charlotte Brontë ac un o nofelwyr Saesneg mwyaf poblogaidd ei dydd. Hi sgwennodd Ruth (1853), North and South (1855) a Wives and Daughters(1866).

Tua 1821-22 daeth Holland yn oruchwyliwr chwarel ei dad yn Rhiwbryfdir, a dros y blynyddoedd dilynnol daeth yn ŵr busnes (entrepreneur) mentrus a llwyddiannus dros ben.

Bu'n Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Feirionnydd (1870-92), ac ef oedd prif hyrwyddwr sefydlu yr ysgol i ferched yn Nolgellau, Ysgol John Williams.

Trigai ym Mhlas Penrhyn, Penrhyndeudraeth, ac at ddiwedd ei oes yng Nghaer Deon, rhwng y Bermo a Dolgellau.

Bu farw ym 1892, a bu farw'i briod, Caroline Jane Burt, ym 1924.

Yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ceir llawysgrif hynod o ddiddorol gan Samuel Holland - 'MEMOIRS' - a'i chyfeiriad yw NLW MS 4983 C. Dyma gyfieithiad o'r rhannau sy'n berthnasol i hanes dechreuadau'r diwydiant ithfaen ym mro'r Eifl :

Y Llyngesydd Lloyd, Tregaean, Môn, oedd perchennog Mynydd y Gwylwyr. Gwneuthum gais ganddo am brydles o'r mynydd a chefais un dros gyfnod heb rhent penodedig ond fy mod i dalu dwy geiniog y dunnell ar yr holl gerrig fyddai'n cael eu cludo oddi yno.

Pan aeth ein cynllun o gael rheilffordd o Fangor i Bortinllaen i'r gwellt, a minnau wedi cael prydles y Gwylwyr ar delerau mor ffafriol gan y Llyngesydd Lloyd, meddyliais am rywbeth i'w wneud â'r lle a hynny trwy sylwi ar y cerrig. Teimlais eu bod yn edrych yn addas ar gyfer gwneud setiau palmantu, ac felly mi a euthum gyda dyn roeddwn yn ei gyflogi, un Trefor Jones, draw i Benmaen-mawr lle ceid dwy neu dair chwarel yn cynhyrchu setiau. Edrychasom arnynt ac ar y dull o'u cynhyrchu, ac euthum ati'n syth i gyflogi dau o'r dynion i ddod draw i'r Gwylwyr gyda'u morthwylion. Rhoesom gynnig ar y cerrig yno.
Gwelwyd fod y cerrig yn addas dros ben ac yn wir yn well na cherrig Penmaen-mawr, gan na fyddent yn gwisgo i fod yn llithrig. Roedd cerrig Penmaen-mawr â gair drwg iddynt o'r safbwynt hwnnw. Roeddwn yn gwbl fodlon y byddai cerrig y Gwylwyr yn addas, ac felly anfonais Trefor Jones i Benmaen-mawr i gyflogi wyth neu ddeg arall o ddynion i ddod yma i agor chwarel. Cafodd afael yn y dynion, a dechreuwyd fynd ati i gynhyrchu setiau palmantu, gan gyflogi rhagor o ddynion a bechgyn o Nefyn.
Gwnaed harbwr bychan ar gyfer llwytho, ynghyd ag inclên i fynd i lawr ato. Aeth llawer llwyth llong i Runcorn a chafwyd masnach barod ar gyfer y cyfan ym Manceinion.
Gweithiais y chwarel hon am beth amser, ond gan fod y busnes yn dwyn gormod o'm sylw oddi ar y chwarel lechi, penderfynais ei gwerthu pe medrwn ganfod prynwr iddi. 
Hysbysebais y chwarel yn Lerpwl, a daeth un Mr. Hutton draw i weld y Gwaith, a'i brynu gennyf. Yn ddiweddarach, daeth un Mr. Roscoe yn bartner iddo, a buont wrth y gwaith am flynyddoedd.
Ond nid Chwarel y Gwylwyr yn unig. Canfyddasant yr un math o garreg yn Llanaelhaearn (ar ochr ogleddol yr Eifl), gan sefydlu chwareli yno, a chodi pentref a'i alw, ar ôl fy hen fforman i a'u fforman hwythau, Trefor Jones, yn Bentref Trefor.
Agorodd grwpiau eraill weithfeydd yno hefyd, a sefydlwyd busnes sylweddol. Ffurfiwyd dau neu dri cwmni i wneud setiau. Bu farw Mr. Roscoe tra yno, a gwerthodd Mr. Hutton ei gyfran i un o'r cwmnïau newydd.
Hyn oedd tarddiad y gweithfeydd setiau a sefydlwyd yn Nefyn a Llanaelhaearn.
Ar ôl hyn, glynais i wrth fy chwarel lechi a'i gwneud yn broffidiol.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. The Memoirs of Samuel Holland, (Dolgellau, 1952), tt.26-7