Robert Williams Parry

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Robert Williams Parry (1884-1956) yn un o feirdd mwayf yr 20g yn ôl rhai, er iddo ond yn cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth. Roedd yn gefnder i Thomas Parry a Syr T.H. Parry-Williams - roedd y tri'n rhannu'r un taid ond mamau gwahanol. Cafodd ei eni ym Madog View, tŷ ym mhentref Tal-y-sarn, lle mae cofeb amlwg iddo ar ochr y stryd. Mae modd gwylio ffilm o seremoni dadorchuddio'r cofeb ym 1969 yma [1].

Gyrfa[golygu]

Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgolion Sir Caernarfon a Phen-y-groes cyn symud i Goleg y Brifysgol, lle arhosodd am ddwy flynedd, ond heb raddio, gan sicrhau swydd fel athro. Ym 1907 aeth i Goleg y Brifysgol, Bangor lle graddiodd y flwyddyn ganlynol. O 1908 hyd 1916 bu'n athro mewn sawl ysgol, yn cynnwys Ysgol Sir Bryn'refail, ysgolion Cefnddwysarn a Sarn (Pen Llŷn), ac wedyn Ysgol Sir y Barri. Ymunodd â'r fyddin dan orfodaeth ym 1916, cyn ddychwelyd i'r Barri, 1918. Ym 1921 fe'i benodwyd yn ddarlithydd rhwng yr Adran Gymraeg a'r Adran Allanol yng Ngholeg Bangor.

Ar ôl rhai blynyddoedd boddhaus fel darlithydd ym meysydd Llydaweg, Cernyweg a gramadeg y Gymraeg, dymunai droi ei law at ddarlithio mwy ym maes crefft llenyddiaeth, ond yr oedd yr Athro, Syr Ifor Williams, yn teimlo nad oedd cynnwys yr hyn oedd gan RWP yn ddigon academaidd. Dilynodd hyn gan gyfnod hir o chwerwder a chynnen a barhaodd am 15 mlynedd.[1]

Meddir ei fod yn ddyn swil, ond bu'n athro poblogaidd mewn dosbarthiadau nos. Roedd yn genedlaetholwr cadarn.

Gwaith llenyddol[golygu]

Gyda'r mesurau caeth y dechreuodd Williams Parry ei yrfa fel bardd, dan gyfarwyddyd dau wr oedd yn byw yn Nhal-y-sarn, sef Owen Edwards (Anant), chwarelwr, a H.E. Jones (Hywel Cefni), gwerthwr dillad.

Daeth yn enwog fel bardd pan enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1910 am ei awdl Yr Haf, cerdd a barodd cryn gyffro ac a ddenodd lawer o efelychwyr.[2]

Mae Williams Parry'n enwog yn bennaf am ei ddwy gyfrol denau ond ysgubol o farddoniaeth, Yr Haf a Cherddi eraill (1924) a Cerddi'r Gaeaf (1956). Yn y cyntaf o'r rhain ceir Mae Hiraeth yn y Môr, Y Llwynog ac Englynion Coffa Hedd Wyn; yn yr ail ceir cerddi megis Eifionydd, Y Ddôl a aeth o'r golwg (Dol Pebin), Cymru 1937 a'r englyn Neuadd Goffa Mynytho. Cyhoeddodd Bedwyr Lewis Jones gyfrol o'i ryddiaith ym 1974.

Ei gartref[golygu]

Wedi iddo farw, etifeddodd Coleg Bangor ei dŷ yn Nhal-y-sarn, ac am flynyddodd roedd modd galw yno a gweld ystafell fyw RWP. Bellach mae'r tŷ wedi ei werthu, ond erys plac ar ffrynt y tŷ.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Erthygl Wicipedia am Robert Williams Parry [2]
  2. Erthygl ar Robert Williams Parry yn Y Bygraffiadur ar-lein, [3]