Robert Stephen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Roedd Robert Stephen (1878-1966) yn ysgolfeistr, cerddor, hanesydd a bardd.

Fe'i ganed 30 Medi 1878 ym Mhen-y-groes, yn fab i Urias Stephen, a weithiai fel rheolwr signalau ar y rheilffordd, a'i wraig Anne. Cafodd Robert addysg gynnar yn ysgol gynradd Pen-y-groes ac oddi yno aeth i Ysgol Ragbaratoawl Clynnog ac i Ysgol Uwchradd Croesoswallt. Cofrestrodd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, ym 1896 ac yna bu'n athro am gyfnod byr yn ysgol gynradd Cyffylliog, cyn dychwelyd i Fangor, lle graddiodd yn y Gymraeg ym 1903. Ym 1907 enillodd radd M.A. o Brifysgol Cymru am draethawd yn ymdrin â gweithiau'r beirdd Bedo Aerddrem, Bedo Brwynllys a Bedo Phylip Bach. Wedi cyfnod yn athro yn Llundain fe'i penodwyd yn athro yn Ysgol Ramadeg Pont-y-pŵl ym 1909, lle'r arhosodd hyd iddo ymddeol ym 1948.

Yn ddyn amryddawn, dysgai amrywiaeth o bynciau yn Mhont-y-pŵl - Cymraeg, hanes, daearyddiaeth a mathemateg. Pan aeth athrawon ffiseg a chemeg yr ysgol honno i ffwrdd i'r fyddin yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ymgymerodd Robert Stephen â dysgu'r pynciau hynny hefyd drwy'r ysgol. Roedd wedi bod ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth ar gwrs carlam ym 1913 i'w alluogi i ddysgu hanes a daearyddiaeth fel pynciau cyfunol.

Bu'n cystadlu'n gyson mewn eisteddfodau gydol ei oes. Yn Eisteddfod Genedlaethol Llangollen ym 1908 enillodd y wobr gyntaf am gasgliad o waith y bardd o'r 15g, Guto'r Glyn, ac yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn ym 1910 daeth yn gyd-fuddugol am y casgliad gorau heb ei gyhoeddi o waith unrhyw fardd Cymreig o gyfnod y Tuduriaid. Bu'n ymhél hefyd â barddoni yn y mesurau rhydd a chaeth ac ysgrifennu dramâu. Yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni ym 1913 daeth yn gyd-fuddugol am lunio drama fydryddol ar fywyd a marwolaeth William Herbert, Castell Rhaglan, iarll cyntaf Penfro. Roedd yn gerddor da'n ogystal, ac o'r un cyff ag Edward Stephen (Tanymarian) a Robert Stephen (Moelwynfardd), a oedd yn blismon yng Nghonwy. Yn Eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais ym 1954 enillodd am gyfieithu'r libretto Princess Ju Ju i'r Gymraeg, a pherfformiwyd ei drosiad o The Bohemian girl ym Mhen-y-groes ar 11 Rhagfyr 1947. Gwasanaethodd fel ysgrifennydd cyffredinol Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl 1924 ac ysgrifennydd cyffredinol cyntaf Gŵyl Gerddorol Llandudno. Roedd yn aelod o Orsedd y Beridd gyda'r enw "Robin Eryri".

Bu'n briod ddwywaith a ganwyd tri o blant o'r briodas gyntaf. Yn ei flynyddoedd olaf symudodd i fyw i Fae Colwyn a bu farw yn ei gartref yno ar 2 Ionawr 1966.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gweler erthygl hwy yn Y Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970, (Llundain, 1997),tt.195-6.