Robert R. Williams (Aled Ddu)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Ganed Robert Robert Williams (1851-1919) - a arddelai’r enw barddol “Aled Ddu” - yn Abererch ac nid oes sicrwydd pryd y symudodd i ardal Dyffryn Nantlle er mae’n sicr iddo wneud hynny erbyn 1878.

Yng Nghyfrifiad 1891, fe nodwyd mai ffermwr oedd o, yn byw gyda’i deulu yn 1 Brynhwylfa, nid nepell o fferm Eithinog a phentref Pontlyfni. Roedd ei wraig Ellen tua wyth mlynedd yn iau nag ef, ac yn hanu o blwyf Llanllyfni. Y pryd hynny, yr oedd ganddynt ddau blentyn, Robert (5 oed) ac Ellen (3 oed). Erbyn 1901, roedd Robert Williams wedi newid ei swydd ac roedd yn gweithio fel casglwr trethi, er yr oedd yn dal i fyw yn 1 Brynhwylfa, fel y gwnaeth am weddill ei oes. Roedd y teulu wedi ehangu, er nad oedd Ellen yno (tybed ai gweini oddi cartref neu wedi marw ydoedd). Roedd Robert y mab yn gweithio fel saer, a’i frawd iau, John Parry Williams (15 oed) wedi prentisio fel saer. Roedd un ferch adref, sef Lena (13 oed) ac yr oedd hi’n dal yn yr ysgol. Tebyg oedd y sefyllfa ym 1911, ond Lena adref heb waith arall.[1]

Bu farw Aled Ddu 28 Mehefin 1919, yn 68 oed, ym Mrynhwylfa,[2] a hynny ar ôl cyfnod sylweddol o salwch.[3] Hyd at hynny, fodd bynnag, roedd wedi bod yn cymryd rhan arweiniol yn ei gymuned, yn aelod amlwg o’i gapel, sef Capel Brynaerau (MC), ac yn ysgrifennydd yr achos yno[4]; arferai hefyd gyflawni dyletswyddau cyhoeddus megis honno yng nghymanfa ganu Capel Bethel (MC), Pen-y-groes pan y’i gwahoddwyd i fod yn llywydd, tua dwy flynedd cyn ei farwolaeth.[5] Bu hefyd yn arholi’r plant yng Nghymanfa Blant Pen-y-groes yr un mis. [6]

Bu’n barddoni am gyfnod hir, er mae’n ymddangos na wnaeth o gyhoeddi cymaint o’i gerddi â rhai o’i gyfoedion. Mae’n amlwg, fodd bynnag, iddo wneud ei farc fel bardd yn weddol ifanc. Nid oedd ond 27 oed pan y’i codwyd i radd Bardd yn yr Orsedd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Penbedw, 1878.<Y Genedl Gymreig, 3.10.1878, t.5</ref> Dichon nad oedd yn fardd mawr er gwaethaf ei aelodaeth o’r Orsedd, ond yn sicr roedd yn medru dal ei dir gyda beirdd lleol eraill. Pan aed ati i bwyso a mesur doniau beirdd y dyffryn yn Y Genedl Gymreig ym 1888, fe’i gosodwyd yn unfed ar ddeg allan o 18 o feirdd y dyffryn o ran ei allu barddonol.[7]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni 1891-1911
  2. Yr Herald Cymreig, 8.7.1919, t.8
  3. Y Dinesydd Cymreig, 13.2.1918, t.8
  4. Mair Eluned Pritchard, “Cerddi cynnar y Cynan arall”, Y Casglwr, 47 (Awst 1992), t.10
  5. Y Brython, 21.6.1917, t.4
  6. Y Dinesydd Cymreig, 13.6.1917, t.3
  7. Y Genedl Gymreig, 8.2.1888, t.7