Robert Herbert Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Un o feibion fferm Gwydir Bach, Trefor, oedd Robert Herbert Jones, ac fe'i hadnabyddid fel Robin Gwydir Bach. Roedd yn frawd i Tom Bowen Jones y bardd a byddai'r ddau frawd yn hoff o fynd allan i'r bae i ddal mecryll. Bu ond y dim iddynt golli'u bywydau un tro yn y 1950au pan nogiodd peiriant y cwch ar godiad storm go enbyd. Fe'u hyrddiwyd i'r lan yn Ninas Dinlle.

Saesnes o Stalybridge ger Manceinion oedd Marian, gwraig Robin, ddaeth i Drefor un haf i wersylla gyda'r Girl Guides. Cyn priodi, rhoddodd Robin ei droed i lawr a dweud wrth ei ddarpar wraig ei fod yn fodlon siarad Saesneg â hi am chwe mis cynta'r briodas yn unig - a dim gair ar ôl hynny. Yn wir, dysgodd Marian i siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg yn gwbl rhugl cyn i'r chwe mis ddod i ben, a bu'n flaenllaw ym mhob gweithgaredd diwylliannol yn Nhrefor gydol ei hoes. Gwraig alluog fel ei gŵr.

Roeddent yn byw mewn tŷ sinc a choed dros y ffordd i Eglwys San Sior yn Nhrefor, tŷ y rhoddwyd yr enw Belfry House arno gan ei berchennog gwreiddiol, Gwyddel o'r enw Thomas Tyrrell. Cawsant dri o blant - Marian, Huw Bryn a Nia.

Un hanesyn digri am y ddau frawd. Dywedir i Robin fynd dros rhyw glawdd yng nghyffiniau glan y môr un tro er mwyn troi clôs (cael cachiad). Pan ddychwelodd ymhen rhyw bum munud, ebe Tom wrtho :

   A gechaist ti rhen gochyn ?
   Ai â dail y sychaist dy dîn ?

Dyma soned gywrain dros ben, yn llawn odlau mewnol, o waith Robert Herbert Jones :

   YR  EIFL
   I'r Eifl eiliaf ganiad o ddilyth addoliad,
   Hen lwyfan traddodiad ein henwlad yw hi,
   Pêr Eden y prydydd ar finion Eifionydd,
       Lle beunydd daw 'hedydd i oedi.
   Rhyw giliad i'r galon ar fin agwrdd eigion
   A saif uwch Elernion, mor dirion yn dŵr ;
   Daw iddo ddedwyddyd yn asbri i'r ysbryd
       A gwynfyd am ennyd i henwr.
   Y tud lle bu'n tadau ar fyd o ofidiau
   Yn brwydro hyd angau am olau a hedd,
   Does heno ond dirgel hen organ yr awel
       Yn seinio hymn dawel i'w diwedd.