Robert D. Thomas (Pencerdd Llyfnwy)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Roedd Robert David Thomas (1849-1882) yn chwarelwr a oedd hefyd yn gyfeilydd addawol ar y piano. Ceir sawl cyfeiriad ato yn y papurau newydd rhwng 1877 a 1882. Er enghraifft, bu'n gyfeilydd i Gôr Llanllyfni mewn cyngerdd ym Mhen-y-groes ym 1877[1]; a nodwyd ei fod yn unawdydd mewn cyngerdd yn Llangwnnadl, Llŷn ym 1880[2].

Cafodd hyfforddiant cerddorol yng Nghaernarfon yn ysgol gerddoriaeth J.H. Roberts. Ym 1877 cyhoeddwyd yr adroddiad canlynol yn Y Goleuad:

CYNGERDD.— Nos Lun diweddaf, cafwyd un o'r cyngerddau mwyaf llwyddianus mewn ystyr arianol, yn y Guild Hall, y budd i'w gyflwyno i'r brawd ieuanc talentog Mr. R. D. Thomas, Penygroes, ond sydd yn ein tref yn yr ysgol gerddorol gyda Mr. J. H. Roberts. Dangosodd y dref garedigrwydd mawr i'r brawd trwy roddi y fath gefnogaeth. Gobeithio y bydd iddo yntau gofio am hyn, a phenderfynu gweithio ei ffordd yn anrhydeddus trwy ymroddi i ddysgu a gweithio. Deallwn ei fod y tymor nesaf i fod dan addysg Dr. Rogers, Bangor. Cymerwyd rhan yn y canu gan Mri. W. W. Thomas, Caernarfon; Iorwerth ap Owain, Talysarn; Llew Llwyfo; Eos Morlais; Miss Jones, Rhuthyn, a Mrs. M. Jones Williams. Chwareuid ar y berdoneg gan Mr. R. D Thomas, Mr. John Williams, a Miss Williams. Yr oedd Morlais fel arferol yn swyno pawb, yn enwedig pan yn canu "Y Cariad a'r Corwynt." Dyma ddernyn ardderchog, ac y mae yn glod i'r awdwr, Mr. Emlyn Evans. Llywyddwyd gan y Maer, H. Pugh, Ysw. Yr ydym yn deall fod agos yr oll wedi rhoi eu gwasanaeth yn rhad, a diolch i Eos Morlais am ddod mor bell - dim ond talu ei gostau teithio.[3] 

Ysywaeth, mae'n ymddangos iddo syrthio yn y chwarel, gan ddioddef o gyfergyd. Fe'i cludwyd i dŷ ei dad yn Nhal-y-sarn, lle bu farw ar ôl ychydig ddyddiau, a hynny ym mis Mehefin 1882.[4]

Dichon na pharhaodd ei enwogrwydd yn hir, fodd bynnag. Er iddo fabwysiadu'r ffugenw "Pencerdd Llyfnwy", o fewn 15 mlynedd mabwysiadwyd yr un ffugenw gan gerddor arall a berthynai i'r genhedlaeth nesaf, sef Richard Griffith Owen.

Cyfeiriadau

  1. Caernarvon and Denbigh Herald, 22.12.1877, t.7
  2. Y Genedl Gymreig, 5.2.1880, t.8
  3. Y Goleuad, 17.3.1877, t.11
  4. North Wales Express, 23.6.1882, t.4