Robert (R.) Lloyd Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

R. Lloyd Jones oedd prif nofelydd plant Cymru yn y cyfnod rhwng y ddau Ryfel Byd. Llyfrau antur oedd y rhain yn bennaf ac roeddent yn nofelau arloesol iawn gyda phlant yn brif gymeriadau ynddynt. Brodor o Borthmadog ydoedd ac fe'i ganwyd ar 7 Rhagfyr, 1878, yn chweched o ddeg plentyn Capten Robert Jones a'i wraig Elizabeth, 10 Heol Madog, Porthmadog, ac fe'i bedyddiwyd gan Iolo Caernarfon. Cafodd ei addysg yn Ysgol Frutanaidd y Port, ac yn Ysgolion y Bwrdd ym Minffordd a Phenrhyndeudraeth. Aeth ymlaen i Ysgol Uwchradd Blaenau Ffestiniog ac Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Y Bala. Eglwyswr oedd prifathro'r Bala a cheisiodd gael gan Capten Jones anfon ei fab disglair i Goleg Llanymddyfri, fel yr urddid ef maes o law yn glerigwr yn Eglwys Loegr. Ond gwrthododd y tad â gwerthu ei argyhoeddiadau ymneilltuol disigl.

Ym Mai 1895, cyfarfu'r Capten â damwain angheuol ar fwrdd ei long, y C.E.Spooner, a bu raid i'r mab ddychwelyd, fel disgybl-athro, i'w hen ysgol ym Mhorthmadog.

Ym 1899 daeth yn fyfyriwr yn y Coleg Normal, Bangor, ac yna ym 1901 yn ôl i Ysgol y Bwrdd, Porthmadog, ac i'w swydd gyntaf fel athro. Fe'i penodwyd yn brifathro Ysgol Tremadog ym 1906, ac yno y bu am saith mlynedd.

Methodist Calfinaidd selog ydoedd, ac enillodd Fedal Aur Cymru yn arholiadau'r enwad hwnnw.

Roedd yn bêl-droediwr arbennig o dda, yn asgellwr chwith tîm Porthmadog, ac enillodd fedal aur pan ddaeth y tîm hwnnw'n bencampwyr Cynghrair Gogledd Cymru.

Symudodd o Ysgol Tremadog i gwmwd Uwchgwyrfai ar 19 Chwefror, 1913, i fod yn brifathro Ysgol Trefor, ac yno y bu, am gyfnod o bymtheng mlynedd, yn weithiwr diwyd ac uchel ei barch. Yn Awst 1928 gadawodd Drefor i fod yn brifathro Ysgol Lloyd Street, Llandudno.