Richard Williams (Croesfryn)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Un o feirdd mwyaf cynhyrchiol Nyffryn Nantlle ar droad yr 20g oedd Richard Williams(1851-<1919) a arddelai'r enw barddol "Croesfryn". Mae'n debyg iddo gael ei eni ym Mhwllheli ym 1851, er iddo nodi ar un achlysur yn y Cyfrifiad mai un o Fryncroes yn Llŷn ydoedd, a thro arall ei fod wedi ei eni yng Nghaernarfon! Roedd ganddo chwaer, Mary Thomas, a oedd wedi ei geni ym Mhwllheli ond a oedd wedi ymgartrefu ar ôl iddi briodi yn Rhes Bryncir, Llanllyfni. Gwaith Richard Williams gydol ei oes oedd gweithio fel rybelwr neu labrwr mewn chwarel lechi.

Dechreuodd Richard farddoni'n weddol ifanc. Ym 1875 anfonodd ei waith at golofn farddol Yr Athraw, lle cafodd gyngor buddiol: yr oedd yna wallau mydryddol yn ei waith ond, meddai'r sylwebydd, "cynefined ein cyfaill ieuanc ychydig yn fwy â'r mesurau, a chredwn y gwneir bardd o hono".[1] Dichon iddo wrando ar y cyngor, oherwydd iddo gael ei ddyrchafu'n fardd yng ngorsedd eisteddfod leol Pen-y-groes ym 1879, ac yr oedd ei enw eisoes wedi'i gyplysu â'i enw barddol, Croesfryn.[2]

Dichon i Groesfryn briodi'n fuan wedyn, er nad oes sicrwydd beth oedd enw ei wraig - efallai mai Mary ydoedd, os oedd y teulu'n byw yn 7 Greenfield, Tal-y-sarn ar adeg y Cyfrifiad ym 1881 - er mae'r cofnod mor flêr fel nad oes modd gosod gormod o goel arno! Cawsant o leiaf dri o blant, Ellen Jane (g.1881); David John (g.1882); a brawd arall a fu'n byw yn nes ymlaen yn Stryd Batus, Pen-y-groes. Erbyn 1891, roedd Richard Williams yn ŵr gweddw 40 oed, ac yn byw gyda'i chwaer Mary, hithau'n weddw, yn Rhes Bryncir, Llanllyfni, gydag Ellen Jane a David John. Erbyn 1901, fodd bynnag, roedd wedi sefydlu ei gartref ei hun yn 26 Ffordd y Sir, Pen-y-groes, gyda'i ferch Ellen Jane yn cadw tŷ iddo, fel y byddai hi'n gwneud tan o leiaf 1911, a hynny yn yr un tŷ, a enwyd yn Bodawel.[3] Roedd David John wedi bod yn gwasanaethu yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig[4], ond ar ôl dod adref bu'n wael a bu farw ym 1905.[5]

Gydol yr amser hyn, roedd Richard Williams yn barddoni, ac yn gyrru ei waith at gylchgronau a phapurau newydd. Roedd ei gynnyrch yn amrywio o gerddi mewn sawl ffurf i englynion - ac yr oedd yn barod iawn ei gymwynas pan ddeuai'r galw am englyn ar garreg fedd neu daflen goffa. Llwyddai'n gyson yn eisteddfodau a chychwyliau'r dyffryn, ond enillodd mewn eisteddfodau ymhell i ffwrdd hefyd: e.e. cafodd 5 gini a thlws aur am ennill yn Eisteddfod Utica yn U.D.A. ym 1904[6] Yn ystod yr 1890au, ac am flynyddoedd yn nechrau'r ganrif newydd, roedd ei waith i'w weld yn gyson yn Y Geninen. Mewn erthygl yn Papur Pawb ym 1905 fe'i rhestrir ymysg beirdd gorau'r dyffryn: ceir yno y beirdd canlynol: Anant, Ioan Eifion, Alaw Llyfnwy, Hywel Cefni a Cyrus, ac yn eu mysg, Croesfryn.[7] Rhaid ei fod wedi gwella dros y blynyddoedd ar ôl sylwadau yn Yr Athraw, ac ar ôl y rhestr o feirdd yn nhrefn eu gallu a gyhoeddwyd ym 1888[8] pan osodwyd Croesfryn yn ddeuddegfed allan o 18 o feirdd y dyffryn.

Roedd yn Annibynnwr ac aelod selog o Capel Soar ar hyd ei oes, gan gymryd diddordeb mawr yn llwyddiant Cymdeithas Gŵyr Ifainc Soar a chyfarfodydd dadlau a llenydda'r capel. Roedd yn aelod pybyr o'r Clwb Rhyddfrydol hefyd.[9]

Bu farw, mae'n debyg, rywbryd yn ystod y 1920au.

Cyfeiriadau

  1. Yr Athraw, Mawrth 1875, t.2
  2. Caernarvon and Denbigh Herald, 19.4.1879, t.6
  3. Cyfrifiadau plwyf Deneio, 1851; a phlwyf Llanllyfni, 1881-1911
  4. Tystysgrif ymadael â'r Fyddyn Brydeiniog, 1901: ffacsimili ar wefan Find My Past
  5. Gwalia", 5.12.1905, t.3
  6. Y Celt, 5.2.1904, t.4
  7. Papur Pawb, 28.4.1905, t.14
  8. Y Genedl Gymreig, 8.2.1888, t.7
  9. Y Werin, 9.11.1889, t.4