Richard Nanney

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Yr oedd Richard Nanney (1691-1768) yn ficer Clynnog Fawr am dros ddeugain mlynedd, o 1723 hyd ei farwolaeth. Roedd hefyd yn rheithor plwyf Llanaelhaearn o 1725 ymlaen.

Mab ydoedd i deulu Cefndeuddwr, Trawsfynydd, ac yn aelod o deulu estynedig a hynafol Plas Nannau ger Dolgellau. Cafodd ei addysg o 1710 yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, gan raddio'n BA ym 1714, ac yn MA ym 1719. Roedd ei fam yn ferch i Richard Edwards, Nanhoron - dyn a fu â chryn feddwl o'r anghydffurfwyr cynnar yn y sir, ac yn eu meithrin ar ei ystad yn Llŷn. Fo, ynghyd â dynion megis Edmund Glynn o'r Hendre oedd yn cynnal piwritaniaeth yn y genhedlaeth gynt. Dichon mai hyn (ac efallai dylanwadau arno yn y brifysgol) a arweiniodd at agwedd efengylaidd, rhyddfrydol ac eangfrydig Nanney. Cafodd ei agwedd at faterion crefyddol y dydd ei chryfhau oherwydd ei gysylltiadau teuluol: roedd ei chwaer Catrin wedi priodi Dr Knight o Gaernarfon, dyn a oedd â llawer o gysylltiadau ymneilltuol. Yr oedd gwraig Nanney hefyd yn hanu o deulu rhyddfrydig iawn, sef Wynniaid y Wern, Penmorfa.

Fel y cynyddodd y diwygiad Methodistaidd yn ystod ei gyfnod fel ficer Clynnog, bu Nanney'n gynyddol oddefgar, os nad yn wir yn gefnogol, i'r rhai a ddewisodd gynnal cyfarfodydd ymneilltuol. Nid damwain efallai yw'r ffaith mai achos Capel Uchaf (MC), Clynnog Fawr oedd yr achos Methodistaidd cyntaf yn Arfon, gan dyfu o ymweliad Howell Harris â'r ardal ym 1747. Er nad aeth cyn belled â chael ei gyfrif ymysg y clerigwyr Methodistaidd, gyda threigl y blynyddoedd, ac yntau'n symud yn nes o hyd at ochr ddiwygiadol yr Eglwys, fe ddenodd Nanney lu o bobl i wrando arno yn Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr oherwydd taerineb ei neges. Roedd hefyd yn gefnogol iawn i'r Ysgolion Cylchynol a gychwynnwyd gan Griffith Jones, Llanddowror, ac yn aml fe'u cynhaliwyd yn eglwys blwyf Clynnog, ar wahân i'r rhai yn ardaloedd pellennig y plwyf, lle defnyddid ffermdai.

Yn ôl Dr Thomas Richards, Bangor, hanesydd Piwritaniaeth gynnar Cymru: "nid oedd pethau'r byd hwn yn mennu fawr arno; diofal ydoedd o'i anifeiliaid — cofier ei fod yn dal tir Elernion ger Llanaelhaiarn (os nad y Fachwen hefyd am gyfnod), stad fechan yr oedd gafael cadarn ynddi gan deulu'r wraig — ac (meddai Robert Jones, yn ei lyfr Drych yr Amseroedd) nid adwaenai unrhyw geffyl ond yr un a farchogai ef ei hun."

Roedd ganddo fab, Richard, yntau hefyd yn glerigwr gyda daliadau Piwritanaidd. Roedd ei ferch Catherine yn briod â'r Parch. Richard Ellis, Bodychen a ddilynodd Richard Nanney, ei dad-yng-nghyfraith, fel ficer Clynnog.[1]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.18-19; Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.641