Richard Griffith Owen (Pencerdd Llyfnwy)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Fe anwyd Richard Griffith Owen (Pencerdd Llyfnwy) (1869 - 1930), ar 1 Ebrill 1869 ym Mhenyryrfa, Tal-y-sarn, yn fab i Hugh a Mary Owen, Bryn-y-coed, Tal-y-sarn. Cafodd ei wersi cerddorol cyntaf gan ei dad. Dysgodd chwarae'r sielo a'r clarinet, ac ysgrifennu i'r gerddorfa. Trefnodd i'r gerddorfa am flynyddoedd ddarnau cerddorol cymanfaoedd canu sirol y Methodistiaid Calfinaidd a'r Annibynwyr yn Arfon a rhai yn y Deheudir ynghyda gŵyl gerddorol Eryri. Enillodd yn eisteddfod Corwen ar drefnu alawon Cymreig i'r gerddorfa, ac O, na byddai'n haf o hyd yn eisteddfod Môn. Cafodd y wobr am gantawd ddirwestol yn eisteddfod Lerpwl, a llawer o wobrwyon eraill am anthemau a darnau cerddorol. Gadawodd mewn llawysgrif gyfansoddiadau cerddorfaol, cantawd, a darnau offerynnol. Cyhoeddodd gasgliad o donau dan yr enw Llais y Durtur, a cheir tonau o'i waith yn Llyfr Tonau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd, a Perorydd yr Ysgol Sul. Bu f. 24 Mai 1930, a chladdwyd ef ym mynwent y dref, Caernarfon.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Robert David Griffith, M.A., , Hen Golwyn, yn Y Goleuad, 28 Mai 1930