Richard Garnons

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Llinach[golygu]

(gweler hefyd Teulu Pant Du)

Richard Garnons (29 Rhagfyr 1773 - 8 Awst 1841), mab y Cadben Richard Garnons, Plas Llanwnda, a fu farw ym 1803. Richard Garnons, y mab, oedd yr olaf o linach Teulu Pant Du i fod â chysylltiad â Dyffryn Nantlle, er efallai iddo wneud mwy o farc llythrennol ar y dyffryn na'i ragflaenwyr a oedd â'u cartref ym Mhant Du. Er ei fod wedi etifeddu tiroedd yn Sir Ddinbych trwy ei fam, roedd ganddo ystad sylweddol yn Uwchgwyrfai, sef Ystad Pant Du a thiroedd Plas Llanwnda. Priododd ym mis Ebrill 1797 â Dorothy Foulkes (marw 1853), trydedd ferch y Parch John Foulkes, ficer Chwitffordd, Sir y Fflint. Ni chawsant blant. Gan iddo gael ei eni yn Sir Ddinbych a marw yn Llanferres yn yr un sir (er iddo gael ei fedyddio yn Llanbeblig), dichon iddo dreulio llawer o'i amser yno, er iddo barhau'n ffigwr o bwys ym mhlwyf Llanllyfni. [1] Yn sicr, roedd yn byw am ran o'r amser o leiaf yng Ngholomendy, Sir Ddinbych, yn ystod y 1820au ac 1830au, yn nhŷ ei chwaer Catherine, yr oedd wedi ei etifeddu.[2] Roedd Garnons hefyd yn berchen ar Blas Coed-llai gerllaw a etifeddodd trwy ei fam,[3] ond dewisodd osod y tŷ hwnnw i bobl eraill, gan fyw efo'i chwaer.[4] Cyn hynny, fodd bynnag, fe gaiff ei ddisgrifio fel 'Richard Garnons o Gaernarfon'.[5] Etifeddodd ystad sylweddol yn Uwchgwyrfai, gyda nifer o ffermydd ym mhlwyfi Llanllyfni, Llanwnda, Llandwrog, Llanfaglan a Llanbeblig, yn ogystal â Llandegfan ar Ynys Môn, yn cynnwys tua dau ddwsin o ffermydd a oedd dros 1808 acer i gyd.[6] Mae'n bosibl hefyd iddo ddefnyddio Plas Llanwnda yn Stryd y Castell, Caernarfon fel ei gartref pan ddeuai i'r ardal i gynnal ei fusnes: roedd ei fam yn etifeddes Plas Llanwnda, Dinas, a bu hi farw ym 1809.[7]

Trwy deulu Wynniaid, Coed-llai, roedd ei dad yn gefnder i'r arlunydd Richard Wilson.[8]

Chwarelydda[golygu]

Datblygodd Garnons Chwarel Pen-y-bryn neu Gloddfa'r Lôn, oedd yn rhan o'i ystad, yn y dyddiau cyn iddi ddod yn rhan o Chwarel Dorothea, trwy roi prydles o'r chwarel yn y lle cyntaf i Hugh Jones, William Turner a William Wynne ym mis Medi 1801. Erbyn 1808, os nad cynt, roedd Garnons yn un o'r partneriaid yn y busnes. Yn y man, cymerodd Garnons y chwarel drosodd ar ei liwt ei hun nes ei throsglwyddo i gwmni newydd ym 1834. [9] Maes o law, a'r chwarel wedi dod yn rhan o chwarel Cloddfa Turner, fe enwyd y chwarel gyfan yn "Chwarel Dorothea", oherwydd (mae'n debyg) enw gwraig Garnons, y tirfeddiannwr.[10]

Pan drafodwyd creu rheilffordd i gludo'r llechi o'r dyffryn, cymerodd Garnons gyfranddaliadau yn y cwmni, sef Cwmni Rheilffordd Nantlle. Cafwyd trafferth i lywio'r mesur i ganiatáu'r lein trwy'r Senedd, ond fe'i pasiwyd yn y diwedd oherwydd dylanwad Garnons fel twrnai Ardalydd Môn ar ei gleient, a defnyddiodd hwnnw ei rwydwaith o gysylltiadau yn San Steffan wedyn i sicrhau llwyddiant y mesur.[11] Deg tunnell o lechi o chwarel Garnons oedd y llwyth cyntaf i deithio i lawr y lein, a hynny ar 17 Gorffennaf 1828.[12] Cymerodd ddiddordeb rhagweithiol yn y rheilffordd newydd trwy wasanaethu fel aelod o'r pwyllgor rheoli o'r dechrau un.[13]

Ymgyrchodd yn galed i sefydlu Ysgol Fasnachol i Gaernarfon ym 1815, ac roedd hyn yn amlwg yn achos oedd yn agos at ei galon. Honnai nad oedd yr ysgolion gramadeg Cymreig traddodiadol yn ateb yr anghenion ar gyfer rhai oedd am fynd i fyd busnes.[14]

Gwleidyddiaeth a gwasanaeth cyhoeddus[golygu]

Erbyn etholiadau 1830 ac 1832, er gwaethaf ei berthynas ffrwythlon ag Ardalydd Môn wrth geisio pasio mesur Rheilffordd Nantlle drwy'r Senedd, roedd Garnons, fel Tori, yn ffyrnig yn erbyn pasio Deddf Diwygio'r Senedd. Er yn dawel gefnogol i Syr Charles Paget, Whig a brawd iau Ardalydd Môn ym 1830, erbyn 1832, trodd i fod yn gefnogol iawn i William Ormsby Gore, yr ymgeisydd a wrthwynebodd Paget.[15]

Er nad oedd ymysg y mwyaf amlwg mewn bywyd cyhoeddus, bu'n ynad heddwch ar gyfer Meirionnydd ym 1834 - ar y cyd ag Ormsby Gore.[16] Cyn hynny, roedd wedi gwasanaethu fel Uchel Siryf Sir y Fflint ym 1804, pan oedd yn byw yn ei dŷ, Plas Coed-llai.[17]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. J.E. Griffiths, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.157
  2. Archifdy Caernarfon, XD2/11283; 15431; 17682; Gwefan am yr artist Richard Wilson, [1], cyrchwyd 15.01.19
  3. J.E. Griffiths, op.cit., t.240.
  4. Gwefan Safleoedd a Chofebion Sir Ddinbych, [2], cyrchwyd 15.01.19
  5. Archifau Prifysgol Bangor, Carter Vincent 17, 2203
  6. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Arolwg o diroedd Richard Garnons, Llysg.11507E.
  7. Cyfeiriadaur Masnach Pigot, 1828-9; J.E. Griffiths, op.cit.
  8. Y Casglwr, Rhif 50 (1993), t.11
  9. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry, tt.77-8; 97-8; 121.
  10. Jean Lindsay, op.cit., t.121
  11. J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, (Oakwood, 1981) Cyf. 1, tt.11-13; Gareth Haulfryn Williams, Sŵn y Trên sy'n Taranu, (Caernarfon, 2018), t.9
  12. Boyd, op.cit., t.25
  13. Boyd, op.cit., t.13
  14. Archifdy Caernarfon, XPoole/5645-55
  15. Llewelyn Jones, Sir Charles Paget and the Caernarvonshire Boroughs, 1830-1832, Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.21, (1960), tt. 81, 89-90
  16. Archifdy Dolgellau, ZQS/T1834/47/3
  17. Wicipedia, Rhestr Siryfion Sir y Fflint, [3], cyrchwyd 15.01.19