Rhyfelgyrch Hywel

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Drama fydryddol fer o waith yr hanesydd W. Gilbert Williams, Rhostryfan, yw Rhyfelgyrch Hywel .[1] Mae'r ddrama, sydd wedi ei rhannu'n bum golygfa, neu'n "olwg" fel y nodir yn y testun, wedi ei lleoli yng nghyfnod y tywysogion Cymreig. Mae'n troi o gwmpas llys uchelwr neu dywysog o'r enw Hywel sydd, gyda'i swyddogion Owain, Dafydd a'u milwyr yn mynd allan i ymladd yn erbyn gelyn sy'n bygwth ysbeilio eu tiroedd. Gadewir Nest, priod Hywel, Gwenllian ei chwaer, a Mallt, llawforwyn Nest, ar ôl yn y llys ac yn gwmni iddynt mae Gruffydd, cyn-filwr a anafwyd mewn brwydr flaenorol a Madog, mynach bradwrus. Y merched hyn mewn gwirionedd yw prif gymeriadau'r ddrama ac mae Gwenllian yn hiraethu ar ôl ei chariad, Rhys. Mae Gruffydd a Madog yn bur bendant fod Rhys wedi cael ei ladd mewn brwydr flaenorol yn erbyn y gelyn ond mae Gwenllian yn credu'n gryf ei fod wedi cael ei gymryd yn garcharor. Mae'r ddrama'n gorffen gyda Hywel a'i fyddin yn dychwelyd yn fuddugoliaethus o'r rhyfela a Rhys i'w canlyn wedi ei ryddhau o'r carchar, a Gwenllian yn ddramatig iawn yn syrthio i'w freichiau.

Gwaetha'r modd ni cheir unrhyw eglurhad pwy yw Hywel na phwy yn union yw'r gelyn - gallant fod yn Saeson neu'n arglwydd neu dywysog Cymreig arall. Yr unig beth sy'n amlwg yw bod y gelynion hyn yn bygwth tiroedd a threftadaeth Hywel. Mae'r ddrama wedi ei hysgrifennu mewn cwpledi odledig ac mae'r mydryddu'n ystwyth iawn ac yn sicr roedd cynnal hynny drwy ddrama a fyddai, mae'n debyg, yn cymryd tuag awr i'w pherfformio, yn gryn gamp. Dyma rai llinellau, a gaiff eu llefaru gan Gwenllian, fel enghraifft:

  Diddig oedd y dyddiau gynt,
  Dyddiau cofiadwy oeddynt.
  Dylif o fwyniant dilys
  Ddoi i'm rhan o gwrdd â'm Rhys
  Ym min hwyr pan rodiem ni
  I'r gwyll a doai'r gelli;
  Yno mwyn awelon Mai
  Â'r ieuainc ddail chwaraeai,
  Onid aem yn fud ein dau,
  A chantor mwyalch yntau
  A ganai ar frig onwydd
  A'i loyw dôn yn gnul y dydd. 

Llwyddodd yr awdur hefyd i gyfleu awyrgylch y cyfnod drwy ddefnyddio geiriau a arferid yn yr Oesoedd Canol yn y ddrama yn ogystal â ffurfiau berfol a oedd yn gyffredin yn y cyfnod hwnnw. Fodd bynnag, er mor grefftus yw'r ddrama fel gwaith llenyddol mae'n debyg y byddai'n bur heriol i'w dysgu ac efallai i wrando arni a'i dilyn oherwydd yr ieithwedd a'r cwpledi odledig byrion. Tybed a fu llwyfannu arni? Byddai'n ddiddorol gwybod.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. W. Gilbert Williams, Rhyfelgyrch Hywel, (Argraffdy'r Methodistiaid Calfiniadd, Caernarfon, di-ddyddiad), tt.48.