Rhostryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Rhostryfan yn bentref chwarelyddol ym mhlwyf a chymuned Llanwnda, yng nghwmwd Uwchgwyrfai. Erbyn hyn yr unig adnoddau cymunedol o bwys yw'r ysgol sydd hefyd yn cynnig cyfleusterau neuadd gymunedol; a chapel (Capel (MC), Rhostryfan). Bu gynt nifer o siopau, swyddfa bost a nifer o grefftwyr, capel yr Annibynwyr ac eglwys - a hyd yn oed gorsaf reilffordd.

Mae W. Gilbert Williams prifathro'r pentref a hanesydd lleol arloesol, yn cael ei gofio ar lechen ar ei hen gartref, Glan Carrog. Brawd iddo oedd yr awdur John Williams (J.W. Llundain).

Cyfarwyddiadur Rhostryfan, 1889-90[1][golygu]

Mae cyfarwyddiaduron masnach y 19g yn rhoi llawer o ffeirthiau am fasnach yn ein pentrefi a threfi, er i'r rhai cynnar dueddu i ganolbwyntio ar y trefi, gan beidio â rhestru ond y busnesau pwysicaf yn y wlad o'u cwmpas. Mae Cyfarwyddiadur Sutton am 1889-90, fodd bynnag, yn rhoi manylion fesul pentref neu blwyf. Y masnachwyr a restrir yn y llyfr hwnnw yw'r canlynol:

Owen Griffith, groser
Thomas Griffith, melinydd a gwerthwr glo (er nad yw'n glir lle 'roedd y felin, gan nad oes yr un felin wedi ei dangos ar fap Ordnans 1888 yn y cyffiniau)
R Jones Hughes, gwerthwr defnyddiau (draper), groser, teiliwr, gwerthwr nwyddau haearn, pobydd a deliwr mewn meddyginiaethau a werthir heb ragnodyn - hwn yn sicr oedd masnachwr pwysicaf y pentref, yn cynnal siop gyffredinol at bob angen
Thomas Humphreys, saer maen
David Jones, saer coed
Griffith Jones, gwerthwr glo
Richard Ratcliffe, saer maen
John Roberts, teiliwr
Robert O Roberts, saer coed
John Thomas, saer coed
Laura Thomas, groser
Edward Williams, gwerthwr glo
John Williams, llyfrwerthwr
Richard Williams, cigydd
W D Williams, crŷdd

Cyfeiriadau[golygu]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.
  1. Sutton's Directory of North Wales, 1889-90