Rheilffordd a Harbwr Dyffryn Llyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Roedd Rheilffordd a Harbwr Dyffryn Llyfni (The Llyfni Vale Railway & Harbour) yn gynllun nas gwireddwyd i gludo llechi o chwareli Dyffryn Nantlle at y môr gan osgoi defnyddio harbwr Caernarfon trwy greu siwrnai fyrrach ar hyd cledrau at lan y môr ym Mhontlyfni.Y pryd hynny, sef tua diwedd y 1850au, roedd nifer o gynlluniau ar droed i ddod â chledrau lled safonol trwy Uwchgwyrfai ac Eifionydd i gysylltu’r lein o Fangor i Gaernarfon gyda rheilffyrdd arfordir Bae Ceredigion.

Yr awgrym oedd defnyddio traciau Rheilffordd Nantlle o’r chwareli hyd Pen-y-groes, lle byddai lein newydd yn cychwyn ar hyd Afon Llyfni i harbwr newydd sbon i’w godi ym Mhontlyfni. Enw’r harbwr hwnnw fyddai “Port Newborough”. Mae’n debyg mai lein 3’ 6” o led rhwng y cledrau oedd dan sylw, gyda’r trenau'n cael eu tynnu gan geffylau mae'n debyg. Cysyniad costus ydoedd, felly, ond yn defnyddio technoleg hen ffasiwn.

Cododd llawer o wrthwynebiad i’r holl syniad pan aeth y mesur preifat o flaen y Senedd yn San Steffan fis Chwefror 1859. Roedd ymddiriedolwyr Harbwr Caernarfon a chwmni Rheilffordd Nantlle yn daer yn eu gwrthwynebiad, a gwrthodwyd y mesur gan y Senedd. Ail-godwyd y syniad ym mis Tachwedd 1859, ond unwaith eto fe’i gwrthodwyd - a dyna oedd diwedd y mater.

Dichon mai ffordd o danseilio Rheilffordd Nantlle a gludai’r llechi ar hyd lein hirach na’r hyn a fwriadwyd yn y cynllun hwn oedd y tu ôl i’r syniad, ac efallai na fwriadwyd iddo erioed gael ei wireddu. Awgryma J.I.C. Boyd mai dyfais i gael cwmni Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin (LNWR) i ddatgan beth oedd eu cynlluniau yn yr ardal oedd y cwbl.[1]

Mae cynlluniau’r lein arfaethedig i’w gweld yn yr archifdy yng Nghaernarfon.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. J.I.C. Boyd, ‘’Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire’’, Cyf. 1 (West) (Oakwood, 1981), tt.33-4.