R. Silyn Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Gweinidog gyda'r Methodistaidd Calfinaidd, bardd, diwygiwr cymdeithasol ac athro oedd Robert Silyn Roberts (1871-1930).

Ganwyd ym Mrynllidiart, ar Ben Cymffyrch, ar lechwedd Cwm Silyn. (Bellach mae Brynllidiart yn adfeilion, ond mae plac arno yn nodi iddo fod yn gartref i Silyn a Mathonwy Hughes - a cheir dyfyniadau o'u gweithiau wedi eu paentio ar gerrig o amgylch y tŷ.) Wrth droed Pen Cymffyrch y mae pentref Tan'rallt.

Bu ei dad, Robert John Roberts (1819-1898), a aned ym mhlwyf Clynnog Fawr, yn briod deirgwaith, ond collodd ei ddwy wraig gyntaf pan oeddynt yn 29 oed. Ellen Williams, yn wreiddiol o Aberffraw, Sir Fôn, oedd ei drydedd wraig, mam Silyn. Pan gafodd Silyn ei eni, roedd dau fab o un o'r ddwy briodas flaenorol yn byw gyda nhw - William (25 oed) a John (19 oed); roedd y naill yn dal yn "scholar" a'r llall yn deiliwr.[1] Ganed dau blentyn i Ellen, sef Silyn ac Ellen Mary (Nel), mam Mathonwy Hughes, bardd y Gadair Genedlaethol 1956. Cefnder iddi oedd R.T. Roberts a drowyd ymaith o Chwarel y Penrhyn, Bethesda, yn 17 mlwydd oed, ar ôl streic 1846, am wrthod bradychu cydweithiwr; galwyd ef yn “Ferthyr cyntaf Chwarel y Cae.” Gorfu iddo fynd i America i chwilio am waith a gadael ei fam weddw yn unig ar ei ôl.[2]

Gadawodd Silyn yr ysgol yn 14 oed a bu’n chwarelwr am bum mlynedd. Yna aeth i Ysgol Clynnog yn fyfyriwr, yn 19 mlwydd oed. Y Parchedig W. Mathias Griffith oedd y prifathro. Bu yno am dair blynedd a dechreuodd astudio Lladin (Caesar, Sallust, Fyrsil) a Groeg (Xenophon, Homer), a phynciau eraill. Un o’i gyfeillion yno oedd Morgan W. Griffith o Dal-y-sarn, a ddaeth yn weinidog Pen Mownt, Pwllheli.

Oddi yno enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol, Bangor. Yno y mabwysiadodd yr enw canol Silyn gan fod yno fyfyriwr arall o’r enw Robert Roberts. Graddiodd ym 1899 (B.A.) ac aeth i Goleg y Bala ym Medi 1899. Cwblhaodd ei radd M.A. ym 1901 ar y Chwedl Arthuraidd mewn Llenyddiaeth Saesneg.

Yng Ngholeg Bangor yr enillodd ddwy gadair Eistedfodau’r Myfyrwyr ac amryw o wobrau eraill am farddoni. Ym 1902 enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bangor, am ei bryddest Trystan ac Esyllt. Wedi hynny cyhoeddodd Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill, ac yna Telynegion mewn cydweithrediad â W. J. Gruffydd ym 1904. Roedd hyn yn gychwyn cyfnod telynegol newydd mewn barddoniaeth Gymraeg. Cyhoeddodd ragor o weithiau eraill o dan y ffugenw ‘Rhosyr’.

Derbyniodd alwad i fynd yn weinidog ar Eglwys Lewisham, Llundain,(1901-1905) ac ar Bethel, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog (1905-1913).

Bu hefyd yn darlithio yn U.D.A ac yng Nghanada dros y mudiad yn erbyn y ddarfodedigaeth, a oedd yn achosi cymaint o farwolaethau bryd hynny. Ym 1912 penodwyd ef yn ysgrifennydd cyntaf Bwrdd Penodiadau Prifysgol Cymru, a phan ddaeth y Rhyfel Byd Cyntaf ymdrechodd i gael penodi swyddogion o Gymry mewn catrodau "Cymreig" yn y lluoedd arfog. Bu’n swyddog dros Gymru dan y Llywodraeth, 1918-22.

O hynny ymlaen bu’n ddarlithydd ar ddosbarthiadau allanol Coleg Bangor, ac ym 1925 sefydlodd adran Gogledd Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr.

Ysgrifennodd lawer i’r Glorian, Y Dinesydd Cymreig, Welsh Outlook, etc.

Awdur y canlynol: Gwyntoedd Croesion, 1924 (cyfieithiad o ddrama J.O. Francis, Cross Currents); Bugail Geifr Lorraine, 1925 (cyfieithiad o nofel Ffrangeg); a’r nofel Llio Plas y Nos(1945).

Priododd ym 1905 â Mary Parry, Llundain. Daeth hithau hefyd i gryn enwogrwydd fel Mary Silyn Roberts, gan hyrwyddo'r un gwerthoedd ag a goleddai ei gŵr. Cawsant ddau fab a merch. Bu farw ym Mangor, 15 Awst 1930.


Llyfryddiaeth[golygu]

O lyfr David Thomas a nodir isod y codwyd peth o'r wybodaeth ond defnyddiwyd hefyd ysgrif David Thomas o'r Bywgraffiadur Cymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1871
  2. Ceir ei hanes yn Silyn (Robert Silyn Roberts) 1871-1930 gan David Thomas, Gwasg y Brython, 1956.