Tafarn y Cwari

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Quarryman's Arms)
Jump to navigation Jump to search
Y Cwari wedi iddi gau. Llun:Jaggery, Comin Creu

Tafarn olaf pentref Llanllyfni oedd y Quarryman's Arms neu'r "Cwari" fel y'i gelwid yn lleol. Yn wir, hyd at rywbryd yn ystod y 1870au enw swyddogol y dafarn oedd “Quarry Arms”. Safai bron gyferbyn â'r eglwys ar waelod yr allt sy'n codi trwy'r pentref. Yr oedd yn agored erbyn 1841, er mae’n debyg fod ei hanes yn mynd yn ôl cryn dipyn cyn hynny. Y pryd hynny, yr oedd yn un o dair tafarn y pentref: y lleill oedd Tafarn y King's Head a Thafarn y Ffort.

Ym 1841, y dafarnwraig oedd Laura (neu Lowri) Griffith, hen wraig weddw 75 oed; a deng mlynedd yn ddiweddarach hi oedd yn rhedeg y dafarn o hyd - roedd gwerthu cwrw yn un o’r ffyrdd traddodiadol y gallai gweddwon tlawd gadw dau ben llinyn ynghyd. Bu farw, fodd bynnag, ddiwedd mis Mehefin 1851.[1]Thomas Owen oedd y tafarnwr erbyn 1861 - yntau yn hen pan gydiodd yn y gwaith gan ei fod yn 77 oed ym 1861. Erbyn 1871, roedd Owen Roberts, 41 oed, yn cadw’r dafarn, ond ei brif waith oedd gweithio fel chwarelwr, sydd yn awgrymu nad oedd y dafarn yn dod ag elw mawr i’r sawl a’i cadwai. Roedd yn dal yno ym 1881, ac yn dal i weithio yn y chwarel; tybed ai oherwydd hynny roedd enw’r dafarn wedi newid i “Quarryman’s Arms”. Robert Roberts, ei fab, oedd cadw’r dafarn - yntau hefyd yn chwarelwr. Roedd o yno ym 1901 a 1911 hefyd, ond erbyn troad y ganrif roedd wedi gadael y chwarel, gan werthu glo yn ogystal â chadw’r dafarn.[2]

Ceir darlun o’r dafarn ym 1909 mewn adroddiad a gyhoeddwyd yn y ‘’North Wales Express’’ am y llys trwyddedu. Yr oedd yr ynadon o’r farn nad oedd angen yr holl dafarnau mewn pentref bychan fel Llanllyfni, gydag un dafarn ar gyfer pob 500 o’r boblogaeth. Gofynnodd Mr Ne, twrnai landlord y Cwar, am i’r ynadon adnewyddu’r drwydded. Dywedodd Arolygydd yr Heddlu, yr Arolygydd Griffith, mai dyna oedd tafarn fwyaf y pentref a’r un mwyaf cyfleus o ran yr adeilad. Ni chafwyd unrhyw gwynion yn erbyn y dafarn hon, meddai. Yn wir, roedd y tafarnwr presennol a’i dad, rhyngddynt, wedi rhedeg y dafarn ers 47 o flynyddoedd heb i’r Heddlu gael unrhyw achos i gwyno. Cytunodd yr ynadon felly i adnewyddu’r drwydded. [3]

Fe'i hanfarwolwyd yng nghân Bryn Fôn o'r un enw â'r dafarn, a gyfansoddwyd ym 1992. Ond ar ôl iddi gau yn 2012, dirywiodd yr adeilad fel nad oedd dewis ond ei chwalu yn 2017.[4]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Claddedigaethau Plwyf Llanllyfni
  2. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1841-1911
  3. ’’North Wales Express’’, 12.3.1909, t.3
  4. ’’Daily Post’’, 19.10.2017