Harbwr Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Porth Llanaelhaearn)
Jump to navigation Jump to search
Harbwr Trefor 2020

Yn wreiddiol, cyn i bentref Trefor gael ei sefydlu ym 1856, "Porth Llanaelhaearn" oedd enw'r fan, ac ym 1815, soniodd Eben Fardd am fynd i "Llanaelhaearn creek".[1]

Harbwr Trefor yw'r unig le, ar wahân i ddoc preifat Caer Belan, o ffewn ffiniau Uwchgwyrfai lle ceir cyfleusterau docio cychod. Am ryw gan mlynedd, bu Harbwr Trefor yn brysur iawn fel man allforio ithfaen Chwarel yr Eifl, gyda chychod stêm a hwyliau i ddechrau, ac yna llongau mwy, yn cario'r cerrig i ffwrdd, yn bennaf i ogledd Lloegr. Mae'n dal i roi lloches i ambell gwch pysgota a chwch hwylio. Yn wreiddiol, morglawdd o gerrig a gysgodai'r harbwr a gweithredu fel glanfa, ond ym 1912, adeiladwyd y Cei Pren; er i hwnnw gael ei adnewyddu ym 1986, erbyn 2018, roedd yn beryglus ac fe'i dymchwelwyd gan gontractwyr arbenigol, Commercial Boat Services. Erbyn hyn, y morglawdd cerrig yw'r unig lanfa ar wahân i'r traeth, ond prin bod angen cyfleusterau bellach, a'r chwarel wedi hen gau.

Mae'r morglawdd cerrig hefyd yn cysgodi Traeth Trefor, sydd yn fan boblogaidd yn yr haf, gyda maes parcio gerllaw.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau[golygu]

  1. E.G. Millward (gol.), Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd, (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1968), t.1.