Pontydd Uwchgwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio
Pont Rhyd-y-meirch, pont draddodiadol hynafol
Pont-y-Cim, 1619, ar yr hen lôn i Bwllheli o Gaernarfon
Pont Baladeulyn, pont ddiweddar wedi ei hadeiladu o goncrît

Dyma erthygl gyffredinol am Bontydd Uwchgwyrfai ar ffyrdd a llwybrau lle maent yn croesi afon. Gweler erthygl ar wahân am bontydd rheilffordd.

Isod fe restrir yr holl bontydd dros ddŵr y gwyddys amdanynt o fewn ffiniau'r cwmwd, ac (os oes erthygl wedi ei chychwyn ar bont) trwy glicio ar yr enw mi ewch at y dudalen honno'n syth. Prif ffynonellau bodolaeth pontydd y cwmwd yw:

  • mapiau Ordnans o 1888 ymlaen[1]
  • planiau a manylebau Syrfewr y Sir yn Archifdy Gwynedd,[2]
  • dogfennau amrywiol o fewn ffeiliau'r Llys Chwarter, [3]

Pontydd a'u hanes[golygu]

Mae pontydd wedi bod yn nodwedd o brif ffyrdd y sir ers y Canol Oesoedd, ac yn aml mae eu henwau wedi parhau hyd heddiw er i'r bont wreiddiol gael ei hailadeiladu sawl tro erbyn hyn. Ers cyfnod y Tuduriaid, mae awdurdodau'r sir (ar ffurf yr ynadon a eisteddai mewn sesiynau gweinyddol o'r Llys Chwarter) wedi bod yn gyfrifol am godi ac atgyweirio pontydd cyhoeddus.

Cyn bod pont, yr oedd yna fel arfer rhyd o ryw fath, neu efallai gerrig camu, ac yr oedd yn haws i geffyl (neu hyd yn oed person ar droed) rhydio afon na mynd yr ffordd hir oddi amgylch y rhwystr, er mor beryglus y gallai hynny fod ar adegau o lif mawr. Yn y dyddiau cynnar iawn, pan orchuddid llawer o'r tir â choedwig a chorsydd, byddai'n haws defnyddio'r traeth i deithio ymhell, ac yn y fan honno, haws efallai oedd rhydio afon fel yr ymledai ar draws y tywod a'r cerrig ar adegau o drai. Yn y mewndir, ar wahân i Afon Gwyrfai ac Afon Llyfnwy fodd bynnag, haws yn nyddiau cynnar teithio oedd osgoi mannau peryglus gyda cheinentydd ac ati a chwilio am fan lle rhedai'r afon yn fas os yn llydan.

I ddechrau, ar y prif lwybrau teithio y codwyd pontydd, rhai ohonynt i osgoi perygl penodol (e.e. Pont y Cim) a rhai eraill i hwyluso trafnidiaeth fel daeth cerbydau olwynog yn fwy cyffredin (ar ôl tua 1700). Cynyddodd yr angen fel datblygodd yr angen o symud nwyddau trwm megis llechi, gyda'r gwaith o adeiladu ffyrdd tyrpeg o 1780 ymlaen. Erbyn canol y 19g., prin oedd y rhydau oedd yn dal i gael eu defnyddio, ar wahân i rai ar ffermydd ac ambell i afonig fechan yn y mynyddoedd. Ym mis Mehefin 1855, fe ysgrifennodd Owen Jones, un o swyddogion y sir, at yr Arglwydd Newborough, Cadeirydd y Llys Chwarter, gan ddweud fod yna fawr o ffyrdd a gynhelid gan y plwyfi nad oedd â phont neu gwlfert dros pob un nant, ond bod angen rhyw 5 pont sylweddol rhwng Pen-y-groes a Rhyd-ddu.[4]

Nodwedd sawl pont yw'r sarnau sydd yn arwain ati, oherwydd natur corsiog iawn y tir o amgylch yr afon ei hun. Sarnau yw'r llwybrau a adeiladid trwy gorsdir i ffurfio llwybr sych. Mae'r rhai pwysicach wedi hen ddiflannu dan ffyrdd modern, ond gwelir enghreifftiau da ar hyd llwybrau cyhoeddus y dyffryn, lle maent yn dal i gael eu defnyddio.

Rhestr o bontydd y cwmwd[golygu]

Rhestru enwau'r pontydd dan enw'r afon sy'n llifo oddi danynt, ac yn nhrefn y pontydd o darddiad yr afon at ei haber. Nodir pontydd nad yw eu henwau'n hysbys trwy ddisgrifio eu lleoliad. Fe'u rhestrir fesul afon, o'i tharddiad hyd at yr aber, yn cychwyn o'r gogledd, sef Afon Gwyrfai sydd yn ffurfio ffin ogleddol y cwmwd. Heblaw am un neu ddau o achosion neilltuol, ni nodir pontydd troed, pomprennau, cerrig camu ac ati, gan eu bod yn dueddol o fod yn byrhoedlog ac nid oes enwau ar fawr ohonynt. Mae categori ar wahân am erthygl sy'n sôn am rydau sylweddol.

Afon Gwyrfai[golygu]

Mae'r pontydd hyn yn cysylltu glannau Uwchgwyrfai ac Isgwyrfai yr afon.

Afon Rhyd[golygu]

Afon Carrog[golygu]

Afon Llifon[golygu]

Afon Foryd[golygu]

Afon Llyfnwy (yn cynnwys Afon Drws-y-coed)[golygu]

Afon Crychddwr[golygu]

Afon Cwm Dulyn[golygu]

Afon Pant-glas[golygu]

Afon Dwyfach[golygu]

Afon Desach[golygu]

Afon Hen[golygu]

Afon Tâl[golygu]

Afon Erch[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwefan Llyfrgell Genedlaethol yr Alban: [1].
  2. Archifdy Gwynedd, cyf. XPlansB/.
  3. Archifdy Gwynedd, cyf. XQS/passim.
  4. Archifdy Gwynedd, XD2/24838.