Pont yr Henryd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Saif Pont yr Henryd (neu Bont yr Hen Ryd) ym mhlwyf Llanwnda ger Tyddyn y Berth dros Afon Rhyd ar y ffordd rhwng Ffrwd Cae Du a Rhostryfan. Fe'i hailadeiladwyd ym 1837 i gynllun gan John Lloyd, syrfewr y sir, gan Owen Williams, saer maen o Gaernarfon. Y gost oedd £28, ac roedd y swm hwnnw i dalu hefyd am ailwneud 200 llath o fetlin ar y ffordd. Diddorol yw sylwi fod Owen Williams, er yn grefftwr, yn methu llofnodi ei enw ar y contract, gan wneud croes yn ei le.[1]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XPlansB/44