Pont Cwellyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Pont Cwellyn fel y mae hi'n bresennol yn bont ar ffurf sarn gyda thri bwa dros hyd o 77 llath, ger ffermydd Cwellyn a Phlanwydd. Bu hen bont ar y safle cyn 1778.[1] Mae'n sefyll ar yr hen ffin rhwng plwyfi Llanwnda, Beddgelert a Betws Garmon lle mae afonydd Bron-y-fedw ac Afon Gwyrfai yn llifo i mewn i ben uchaf Llyn Cwellyn, ar y briffordd o Gaernarfon i Feddgelert (yr A4085 bresennol). Cafodd ei thrwsio a'i gwella ym 1829-30 gan y contractwyr Lewis Williams a John Parry, seiri maen. Roedd y gwaith yn cynnwys sythu darn o'r ffordd fel y byddai'r ddwy afon yn llifo o dan y bont. Ar fapiau Ordnans, fe roddir yr enw Pont Glan-yr-afon neu Bont Cwellyn Rhif 2 i'r bont dros Afon Bron-y-fedw a Phont Cwellyn Rhif 1 i'r darn o'r bont sy'n croesi'r Afon Cwellyn neu Wyrfai. Dim ond un dalcen i Bont Gwyrfai 1 o'r holl adeiladwaith sydd yn Uwchgwyrfai.[2]

Roedd y bont oedd yno'n wreiddiol ond yn croesi Afon Cwellyn, gan adael yr afon arall (mae'n debyg) i beri achos llifogydd ar adegau o storm. Mae'n amlwg fod pont yno cyn 1778[3] ac mae bond wedi ei lofnodi gan Henry Parry, Moel-y-don, Ynys Môn, saer melinau; Griffith Williams, Llanllechid, saer maen; a John Hughes, Drws-y-coed, Beddgelert, saer maen yn nodi eu bod wedi codi pont newydd y flwyddyn honno yn lle'r hen bont oedd yn "annigonol, anghyfleus a heb fod mewn cyflwr da" ar gost o £200.[4] Fe ymddengys iddi gael ei chodi neu ei hailgodi tua 1800 (a barnu oddi wrth arddull y planiau a'r ysgrifen ar y dogfennau sydd ar gael). Yr adeiladydd y pryd hynny oedd Lewis Ellis a'i bartneriaid i ddyluniad John Hughes, saer melinau. Y gost y pryd hynny, mae'n ymddangos, oedd £251.12.0c.[5]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Archifdy Gwynedd XPlansB/153
  2. Map Ordnans 6" i'r filltir, arolwg 1888
  3. Archifdy Caernarfon XPlansB/153
  4. Archifdy CaernarfonXPlansB/150, 173
  5. Archifdy CaernarfonXPlansB/76