Plygain Llanllyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Plygain Llanllyfni yw'r unig blygain sydd wedi goroesi heb doriad hyd heddiw yn Uwchgwyrfai, ac mae'n debyg iddo gael ei gynnal ar fore Nadolig bob blwyddyn ers rhywbeth fel 200 mlynedd o leiaf, gan fod yn eithriad mawr yn hanes y Plgain sydd wedi crebachu bron yn llwyr i gyffiniau sir Drefaldwyn ers blynyddoedd lawwer. Oherwydd hyn mae'n ddigwyddiad traddodiadol o'r pwys mwyaf yn y cwmwd. fe'i gynhelir yn Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni am 7 ar fore Nadolig; tan 1970 fe'i gynhaliwyd yn gynharach, gan gychwyn tua 6.

Mae darlun godidog o'r traddodiad byw wedi cael ei greu gan Catherine Parry yn ei hatgofion, a ysgrifennwyd ym 1989:

Arferwn fynd i Eglwys Sant Rhedyw erbyn chwech o'r gloch y bore i wasanaeth y Plygain, ond yn 1970 daeth i fod am saith o'r gloch. Gwasanaeth eglwysig i'r plwyf cyfan - y tair eglwys, Llanllyfni, Penygroes a Thalysarn yn uno i ganu carolau; y gynulleidfa yn canu bob yn ail â’r unawdwyr, deuawdwyr neu bartion, ac ambell i fab neu ferch yn darllen rhan o'r Ysgrythur Lân. Tymor Tangnefedd ac Ewyllys Da. Mae y gair ‘Plygain' ei hun yn deillio o'r gair Lladin, Pullicantus, sef caniad y ceiliog ar doriad y dydd.

Mae cyrchu i Eglwys y Plwyf yn Llanllyfni ar fore'r Nadolig i wasanaeth y Plygain yn hen arferiad. Mentraf ddweud wedi holi rhai o drigolion hynaf yr Eglwys (a neb yn gallu rhoi atebiad pendant) a gwneud ychydig rifyddeg, ei fod tua dau gant oed. Un o nodweddion arbennig Llanllyfni yw'r traddodiad parhaol hwn. Mae'r bedwaredd genhedlaeth o deulu John Parry, y clochydd, a oedd yn cadw Tafarn y Bermo, yn dal i gadw'r traddodiad yn fyw. Byddai dau fab iddo, Pitar a Henry Richard Parry (yr olaf wedi ein gadael yn 1952) yn meddu ar leisiau swynol, fel yr oll o'r teulu. Byddent yn canu deuawd, y naill yn canu tenor a'r llall yn canu'r alaw, a phawb yn mwynhau gwrando amynt, yn arbennig yn canu 'Carol y Blwch', ac yn hollol naturiol mae ei ddwy ferch wedi cael rhoi y ddwy linell olaf o un o res hir o benillion sydd yn 'Carol y Blwch' ar garreg fedd eu tad, Henry Richard Parry, ym mynwent Gorffwysfa, Llanllyfni. Cefais eu caniatad i godi'r ddwy linell, a dyma hwy:
'Mae'r bedd yn dy goleu mae'r lamp yn y gell,
I’r saint i ail wisgo cyn mynd i le gwell.'
A dyna Huw a Harri Parry, Liverpool House, dau gefnder i fy nhad, ond dim perthynas â theulu'r Bermo. Cofiaf hwy pan oeddwn yn blentyn yn canu 'Carol y BIwch' a'm hewyrth Harri yn dobio llawr yr Eglwys efo'i ffon i gadw amser. (Roedd D'ewyrth Harri yn defnyddio'i ffon am ei fod yn gloff - crydcymalau arno.) Canu yn ddigyfeiliant fyddai'r drefn adeg hynny, a'r Eglwys yn orlawn o bobl.
Hir y parhao y canu arbennig, a'r amser arbennig, sef canu carolau ar fore'r Nadolig yn Eglwys Llanllyfni. Mae'n anodd dychmygu am un dull gwell o ddechrau dathlu'r Ŵyl.
Carwn ychwanegu fod Maldwyn Parry, yr enillydd cenedlaethol hysbys, yn wyr i'r dywededig John Parry, Clochydd. Ef yn cadw traddodiad y teulu yn fyw, trwy arwain a hyfforddi partion ar gyfer gwasanaeth y Plygain bob blwyddyn. Ef hefyd yw organydd Eglwys Sant Rhedyw, ac yn weithgar iawn gyda chaniadaeth y cysegr yno.[1]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau[golygu]

I'w barhau
  1. Gwefan www.Nantlle.com [1]