Glynllifon

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Plas Glynllifon)
Neidio i: llywio, chwilio

Plasty a gafodd ei ailadeiladu o gwmpas 1840-46 yw Glynllifon. Saif ar lan Afon Llifon ym mhlwyf Llandwrog, ychydig i'r dwyrain o lôn bost Pwllheli (A499).

Roedd y tŷ hwn yn gartref i deulu’r Glyniaid am lawer canrif, ac hefyd i’r Arglwyddi Newborough o ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Adeiladwyd y tŷ a welwn yno heddiw o gwmpas 1840-46, ar ôl i dân ddinistrio’r tŷ a safodd yno ynghynt. Credir i’r tŷ hwnnw gael ei adeiladu o gwmpas 1751, a bod yntau wedi cymryd lle annedd hŷn a oedd yn gartref i’r Glyniaid. Aeth y trydydd Arglwydd Newborough ati i ailadeiladu'r plasty wedi'r tân, gan weithredu i raddau helaeth fel y pensaer gwreiddiol. Cyflogwyd Edwin Shelton, pensaer o Amwythig, i fireinio ei ddyluniadau.

Roedd y plasty yn gartref i’r Arglwyddi Newborough hyd at ddechrau’r ugeinfed ganrif, ac arosodd yn nwylo’r teulu hyd at 1949. Fe'i werthwyd yr eiddo i fasnachwyr coed o Drawsfynydd a aeth ati i gwympo llawer o'r coed prin aeddfed a blannwyd gan y teulu. Ailwerthwyd y plas a llawer o'r tir yn nechrau’r 50au i'r Cyngor Sir wedyn fel lleoliad newydd y coleg amaethyddol a fu gynt ym Mhlas Madryn, Pen Llŷn, ac mae’r plas a llawer o'r adeiladau eraill sydd ar hen dir y plasty bellach yn gartref i Goleg Meirion-Dwyfor. Mae’r tŷ ar hyn o bryd yn cael ei adnewyddu a’i throi'n westy moethus.

Mae’r tŷ hefyd yn gartref i ystlumod pedolog lleiaf, ac mae rhannau o’r tŷ o dan warcheidwad y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur. Mae rhai o erddi’r plasty, a elwir heddiw yn Barc Glynllifon ar agor i’r cyhoedd hefyd, ac mae modd gweld llawer o blanhigion egsotig a ddaeth rhai o’r hen deulu yn ôl i Landwrog pan oeddynt ar eu teithiau.

Ciperiaid[golygu]

Roedd hi'n arfer chwilio am giperiaid ymhell o'r ardal, fel na fyddent yn dangos ffafriaeth i'w ffrindiau neu eu teuluoedd. Un o'r ciperiaid mwyaf llwyddiannus a wnaeth llawer i ddatblygu gerddi a thiroedd yr ystad ar gyfer hela a saethu oedd John Thorman ar ddaeth i Glynllifon ar 28 Hydref 1812 i ddechrau ar ei swydd fel cipar. Ganed ef yn Easingwold, Swydd Efrog tua 1783. Cadwodd ddyddiaduron sydd yn gofnod pwysig am yr ystad ar ddechrau'r 19g. Maent bellach yn Archifdy Caernarfon.

Ffynonellau[golygu]

Erthygl ar Wicipedia am y plasty hwn


Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol