Plas Dinas

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Plasty sy’n dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg yw Plas Dinas, ym mhlwyf Llanwnda.

Credir i diroedd Dinas fod yn gysylltiedig â hen drefgordd Bodellog, a gelwid Plas Dinas ar un adeg yn Dinas Dinoethwy. Cafodd ei adeiladu yn 1653 gan Thomas Williams, un o feibion ystâd y Faenol. Rhoddodd garreg ar un o furiau’r plasty, ac wedi ei naddu arni ceir ‘1653 TW, JW’. Mae’n debyg mai blaenlythrennau enwau Thomas Williams a’i wraig yw'r rhain. Ni chafodd y gŵr hwn fyw yn ei annedd newydd yn hir wedi iddo ei adeiladu gan iddo farw yn 1656.

Ail-briododd ei wraig Jane, a oedd yn ferch i deulu Castellmarch, gyda Thomas Bulkeley – mab Arglwydd Bulkeley o’r Baron Hill ym Miwmares. Trwy ei briodas â Jane, gwnaethpwyd ei ystâd yn llawer mwy a manteisiodd ar ei gysylltiadau newydd yn ardal Llanwnda.

Ar farwolaeth Thomas Bulkeley yn 1708, etifeddodd ei nai, Thomas Bulkeley arall, Plas Dinas a bu fyw yno ei hun am rai blynyddoedd. Erbyn 1741, roedd y Parch. Richard Farrington, M.A., ficer ym mhlwyfi Llanwnda a Llanfaglan, yn byw yno. Yn ei gyfnod ef, nid oedd y tiroedd ynghlwm â’r plasty, gan fod y rheiny yn nwylo Morris Williams, tirfeddiannwr uchel ei barch yn ardal Llanwnda.

Symudodd y plasty wedyn o feddiant Farrington i Gapten Richard Jones, gŵr i un o ferched y Morris Williams a nodir uchod. Daeth Owen Roberts o Dŷ Mawr, Clynnog Fawr yno i fyw yno wedyn, ynghyd â’i briod Catherine o’r Castell, Llanddeiniolen. Fe wnaeth Owen Roberts addasu llawer ar y tŷ, ac adeiladu estyniadau iddo. O ganlyniad i hyn, cadwodd y tŷ ei statws fel plasty, yn hytrach na’i droi yn ffermdy fel llawer o anheddau hynafol eraill yn ardal Uwchgwyrfai.

Meddylia llawer o bobl leol am y plasty fel cartref i’r diweddaf Anthony Armstrong-Jones, a briododd â’r Dywysoges Margaret yn 1960. O fewn cof, roedd y teulu'n ymgasglu ym Mhlas Dinas bob Nadolig, gan fynychu gwasanaeth bore Nadolig yn yr eglwys a chyfarch y plwyfolion a oedd yn yr oedfa wrth i'r rheiny ymadael.

Mae’r plasty bellach yn westy pum seren moethus, ar ôl bod am flynyddoedd yn gartref henoed preifat.

Mae gerddi, gan gynnyws gardd furiog sylweddol, yn aros yn nodwedd o'r safle. Er i rai honni yn y gorffennol fod y plas wedi ei godi ar ganol hen fryngaer, Dinas Dinoethwy, nid oes fawr o dystiolaeth wedi dod i'r fei fod y fath amddiffynfa erioed wedi bodoli.

Ffynonellau[golygu]

Williams, W. Gilbert Moel Tryfan i’r Traeth (Cyhoeddiadau Mei, Penygroes, 1983)

Cofnod o’r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol