Perchnogion chwareli llechi

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Yr oedd nifer o berchnogion chwareli llechi yn Nyffryn Nantlle o'r dyddiau cynharaf ymlaen. Yn y cyfnod modern, cychwynnwyd cloddio am lechi oddeutu 1750 ar ochr Mynydd Cilgwyn, a hynny'n answyddogol, hynny yw heb ganiatâd y tirfeddiannwr honedig, sef Coron Lloegr. O 1800 ymlaen, tyfodd y diwydiant ac unwyd chwareli bach yn unedau mwy dan reolaeth neu berchnogaeth nifer fechan o berchnogion. Rhywbeth nad yw'n cael ei sylweddoli'n aml oedd cyn lleied o dir oedd gan Arglwydd Newborough yn y dyffryn ei hun ac felly cyn lleied oedd ei ddiddordeb yn y fasnach lechi yno; roedd ganddo chwareli mawr yng Nglynrhonwy, Cedrun (Dyffryn Conwy) a Ffestiniog.

Rhestrir yma y perchnogion yng nghyfarwyddiaduron cynnar Gogledd Cymru. Ar ôl 1844, nodir i raddau helaeth y cwmnïau'n unig, fel yr unwyd chwareli'n fusnesau mwy ym mherchnogaeth cwmnïau.

Yng Nghyfeiriadur Masnach Pigot, 1828-9, enwir y canlynol:

Yng Nghyfrifiadur Pigot, 1835, enwir y canlynol:

Yng Nghrifiadur Masnach Pigot a Slater, 1844, enwir y canlynol;[3]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Cyfeiriadur Pigot, 1828-9 (copi yn Archifdy Caernarfon)
  2. Cyfeiriadur Pigot, 1835 (copi yn Archifdy Caernarfon)
  3. I Slater, A Directory of Liverpool...together with the whole of North Wales, (Slater, 1844). Casglwyd yr wybodaeth ym 1843.