Pennarth (trefgordd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Trefgordd a hen faenor gyn-hanesyddol oedd Pennarth (neu Penardd) yn ardal Clynnog Fawr. Yn ôl ffiniau modern plwyfi a chymunedau a sefydlwyd yn yr 16-17g. roedd ardal Pennarth yn fras yn rhan isaf plwyf Llanllyfni o gwmpas Pontlyfni.

Mae llawer o gyfeiriadau at y lle hwn mewn hen ysgrifau Cymreig, megis Englynion y Beddau a geir o fewn Llyfr Du Caerfyrddin. Credir i bendefig o'r enw Maeldaf Hen fyw yno o gwmpas y chweched ganrif, a bod cymeriadau eraill o'i gyfnod ef wedi eu claddu yno. Ceir cyfeiriadau at y faenor hon hefyd ym mhedwaredd gainc y Mabinogi, sef chwedl Math fab Mathonwy, sy'n cyfeirio at nifer o fannau yn Uwchgwyrfai. Yr oedd afon yn rhedeg drwy'r safle yma hefyd, a redai o ucheldir Clynnog, a gelwid hon ar un adeg yn Afon Rhydybeirion yn ôl rhai.[1]

Fel yn achos nifer o drefgorddau'r Canol Oesoedd, mae'r enw wedi parhau fel enw un o brif ffermydd yr ardal hyd heddiw.

Disgrifiad o'r drefgordd yn y Record of Caernarvon[golygu]

Rhestrwyd y gwelyau, tenantiaid a'r rhenti neu'r nwyddau a gwasanaethau y disgwylid iddynt gael eu cyflwyno i'r Tywysog neu arglwydd y cwmwd mewn dogfen a luniwyd ym 1352 ac a elwir bellach yn Record of Carnarvon. Mae copi o fersiwn brintiedig y ddogfen hon i'w chael yn Archifdy Caernarfon. Erbyn 1352, Brenin Lloegr (neu ei fab hynaf, Tywysog Cymru) oedd yn derbyn y rhenti a'r rhoddion hyn, ond roedd y ddaliadaeth o dir yn dal i gydymffurfio â'r hen drefn o "wely" a rannwyd rhwng perthnasau.

Nodir yn y Cofnod dan sylw fod pedwar gwely o dir rhydd ym Mhennarth tua 1352: Gwely Wyrion Roppert, Gwely Wyrion Dafydd, Gwely Wyrion Carwir a Gwely Wyrion Itgwil. Yr oedd yna hefyd un gwely o dir caeth, sef Gwely Cradog.[2] Mae ambell i derm technegol wedi'i esbonio yn erthygl Stent Uwchgwyrfai 1352.

Cyfieithiad[golygu]

PENNARTH

Mae yn y drefgordd hon bedwar gwely o dir rhydd, sef Gwely Wyrion Roppert, Gwely Wyrion Dafydd, Gwely Wyrion Carwir a Gwely Wyrion Itgwil. 
Ac etifeddion Gwely Wyrion Roppert yw Madog ap Llywarch, Ieuan ap Heilin ap Griffri ac eraill. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 8s. 10c.
Cyfanswm blynyddol: 35s.4c.
Ac etifeddion Gwely Wyrion Dafydd yw Dafydd ap Iorwerth, Madog ap Adda ap Einion ac eraill. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 6s. 9½c..
Cyfanswm blynyddol: 27s.2c
Ac etifeddion Gwely Wyrion Cargwir yw Dafydd ap Tegwared, Iorwerth ap Tegwared ac eraill. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 8s. 4¼c.
Cyfanswm blynyddol: 33s.5c.
Ac etifeddion Gwely Wyrion Itgwil yw Einion ap Iorwerth ap Ednowain ac Einion ap Adda ac eraill. Ac maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 2s. 5¾c.
Cyfanswm blynyddol: 9s. 11c.
Ac mae ar y pedwar gwely uchod ddyletswydd mynychu [llysoedd] y sir a’r hwndrwd a Melin Eithinog yr arglwydd. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol.
Ac y mae yn y drefgordd hon un gwely o dir caeth o’r enw Gwely Cradog. A Tegwared ap Hollyn ac Ieuan ei frawd ac eraill yw tenantiaid hwnnw. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 9s. 2c.
Cyfanswm blynyddol: 36s.8c.
Ac yn unol â’r stent diwethaf adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel, [talent] yn flynyddol 8½c.
Cyfanswm blynyddol: 8½c.
Ac y mae yn y gwely hwnnw un fufedd o dir a fu gan Madog Crec sydd yn awr yn nwylo Iorwerth Cam. A thelir 4c. bob blwyddyn adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn dwy ran gyfartal.
Cyfanswm blynyddol: 4c.
Ac mae arnynt ddyletswydd mynychu Melin Eithinog yr arglwydd. Ac maent yn cludo [nwyddau] ar ran yr arglwydd o Gaernarfon cyn belled â Chricieth, Nefyn neu Bwllheli, gyda dyn a cheffyl a logir am 2c. y dydd, ac o fewn eu cwmwd eu hunain gyda dyn a cheffyl a logir am 1c. y dydd. Ac maent yn talu bob blwyddyn ar adeg y Pasg 9c. tuag at waith y rhai a elwir yn Gymraeg yn “greorion” sydd yn gofalu am anifeiliaid gweithio’r arglwydd.
Cyfanswm blynyddol: 9c.
Ac mae tenant y gwely hwnnw, oherwydd fod ganddo un fesur o dir âr, yn darparu bwyd a diod ar gyfer heliwr y tir o gwmpas ac un o’i fechgyn a siambr am un diwrnod. Ac yr un modd ar gyfer  gweilchyddion, a elwir hebogyddion. Ac mae o’n talu Cylch Rhaglaw.  Ac [mae’n talu] 10 swllt o ebediw, gobrestyn ac amobr fel y bo’n ofynnol. Ac mae o, a phawb arall caeth a’r rhai y rhoddwyd tenantiaeth iddynt yn y cwmwd hwn, boed yn daeogion i ddynion rhydd y cwmwd neu ddynion caeth eraill yr Arglwydd Dywysog yn y cwmwd, yn talu dirwy o £8 i’r ddau dwrn mawr  bob blwyddyn.
Cyfanswm blynyddol: £8
Ac yng Ngwely Wyrion Itgwil uchod y mae tair bufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Llywelyn ap Iorwerth ap Hywel sydd yn awr yn nwylo Einion ap Iorwerth. A mae’n talu am dir sydd newydd gychwyn cael ei amaethu adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel bob blwyddyn  4s.4c.
Cyfanswm blynyddol: 4s.4c.
Ac nid ydynt yn talu dim o’r hen drethi yr arferid eu talu trwy ganiatâd y diweddar Dywysog Cymru, heb unrhyw daliadau eraill.
Cyfanswm y Drefgordd hon yn flynyddol: £7 7s. 10½c.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. W.R. Ambrose, Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872).
  2. Record of Carnarvon, tt.24.