Parc Cenedlaethol Eryri

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Fe ffurfiwyd Parc Cenedlaethol Eryri ym 1951 a hwn yw’r parc cenedlaethol mwyaf yng Nghymru, yn cwmpasu 823 milltir sgwâr neu 2,176Km sgwâr. Mae Parc Cenedlaethol Eryri y pedwerydd mwyaf ym Mhrydain ar ôl y Cairngorms, Dyffrynnoedd Swydd Efrog ac Ardal y Llynnoedd. Ym 1951 pan ffurfiwyd y Parc, roedd y diwydiant llechi'n dal i frwydro ymlaen er gwaethaf y cau a'r ailgyfeirio a fu yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac ar ôl colli llawer o'r gweithwyr yn y Rhyfel. Am y rheswm hwnnw, mae'n debyg, er bod y Parc yn uned o lethrau mwyaf gogleddol Eryri ei hun hyd at ddyffryn Dyfi yn y de, fe adawyd yr ardaloedd chwarelyddol mwyaf y tu allan i ffiniau'r Parc. Dyna'r rheswm, mae'n debyg, pam fod cyn lleied o Uwchgwyrfai yn y Parc - sef dim ond y rhan honno o'r cwmwd ar ochr orllewinol Dyffryn Gwyrfai o Bont Cyrnant yn y Waunfawr hyd at bentref Rhyd-ddu ac i lawr rhan uchaf Dyffryn Nantlle hyd at ben uchaf pentref Nantlle ei hun ac o'r fan honno mewn llinell syth ar draws Cors y Llyn at Gwmbran, ger Pant-glas. O'r fan honno, mae'r ffin yn dilyn y ffordd gefn nes gyrraedd Tafarn-faig ar y ffin ag Eifionydd, gan adael dim ond chwareli wedi hen gau a rhai bychain o fewn y ffiniau.

Mae'r Parc Cenedlaethol yn ymdebygu i awdurdod lleol, gan fod ganddo bwerau ym meysydd cynllunio, datblygu economaidd, llwybrau a hamdden. Mae corff yr awdurdod yn anetholedig - mae'r aelodau'n cael eu penodi'n rhannol gan Lywodaeth Cymru ac yn rhannol gan yr awdurdodau lleol o fewn ei ffiniau, sydd yn pennu rhai o'u cynghorwyr etholedig i eistedd ar fwrdd yr Awdurdod.

Gresyn, ar un wedd, na ddarparwyd yr un diogelwch i gefn gwlad gweddill Uwchgwyrfai megis mynyddoedd Gurn Ddu a Bwlch Mawr a'r Eifl, er bod Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn yn gwarchod peth o'r tir erbyn hyn.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]