Tafarn Pant-glas

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Pant-glas Inn)
Jump to navigation Jump to search

Tafarn Pant-glas oedd yr adeilad cyntaf ym mhentref Pant-glas wrth deithio o gyfeiriad Llanllyfni ar y lôn bost i Dremadog. Safai wrth ochr Capel Pant-glas (A). Roedd y safle’n un manteisiol iawn ar gyfer tafarn. Er mai Pen-y-groes oedd y man lle newidid ceffylau'r goets fawr yn ôl pob sôn, dim ond 7 milltir o Gaernarfon oedd y pentref hwnnw. Roedd Pant-glas, ar y llaw arall, yn union hanner y ffordd - ac roedd yno ardal eang o ffermydd a thyddynnod hefyd a fyddai’n edrych ar y dafarn fel eu man yfed a hamddena cyn dyddiau’r mudiad dirwest!

Roedd y dafarn wedi ei hagor cyn 1841. Y flwyddyn honno, Howel Griffith, gŵr 30 oed o blwyf cyfagos Dolbenmaen, oedd y tafarnwr. Mae’n debyg bod y dafarn yn waith ychwanegol i Howel Griffith a’i wraig Jane; ym 1845 mae cofnod ar gael sydd yn profi ei fod hefyd yn denant ar tua 7 erw o dir a rannwyd yn 4 cae ger y dafarn. Y perchennog oedd un John Jones, a oedd hefyd yn landlord fferm Pant-glas – er nad oedd yn byw yn yr un o’r ddau le.[1]

Dichon i Howel Griffith symud tua 1845-6 i ffermio Eisteddfa ger Nasareth ac, erbyn 1851, gŵr o Lanystumdwy’n wreiddiol o’r enw Griffith Griffiths, 30 oed, a’i wraig, Jane Griffiths arall, oedd y tafarnwr a’r ffermwr. Symudodd y teulu hwnnw, hefyd, gan mai Griffith Owen, 64 oed, o Lanystumdwy a’i wraig ifanc, Jane Owen, oedd yn cadw’r dafarn ym 1861. Erbyn 1871, saer coed, John Thomas, 32 oed, oedd yn cadw’r dafarn gyda’i wraig Margred, ond cyn 1880 roedd y teulu hwn hefyd wedi symud i ffwrdd.[2]

David Jones oedd y tafarnwr erbyn 1880, ond ni fu 1880 yn flwyddyn dda iddo. Ddwywaith yn ystod y flwyddyn bu o flaen ei well ar gyhuddiad o werthu diod gadarn i rai dan oed. Ar yr ail achlysur, cafwyd dirwy drom o £5 a chostau a nodwyd ei bechod ar ei drwydded, sef caniatáu i rywun brynu diod i dri bachgen rhwng 10 a 15 oed - a gwaeth na hynny, ef ei hun wnaeth “sbeicio” diodydd y bechgyn gyda gwirodydd nes iddynt fynd oddi yno’n chwil gaib, a phawb yno’n cael hwyl fawr am eu pennau.[3] Nid yw’n syndod felly bod tenant newydd yn y dafarn erbyn 1881, sef David Roberts.[4]

Y tenant a arhosodd hwyaf yn y dafarn oedd Francis W. Griffith, gŵr o blwyf Llanllyfni a aned tua 1864, ac a oedd wedi cyrraedd yno erbyn 1891, gan ei ddisgrifio ei hun fel ffarmwr a thafarnwr.[5] Roedd yn dal yno hyd 1903 o leiaf ac enillodd beth clod iddo ei hun mewn sioeau amaethyddol yn y cylch.[6] Dichon iddo farw fis Chwefror 1906 a hynny yn Ninbych - sydd yn codi’r cwestiwn a oedd problemau meddyliol ganddo, gan mai yno yr oedd ysbyty meddwl Gogledd Cymru.[7] Parhaodd ei wraig i gadw’r dafarn hyd 1909 o leiaf [8]. Erbyn mis Awst y flwyddyn ganlynol, yr oedd gŵr o’r enw Owen Jones yn rhedeg y lle.<Yr Herald Cymraeg, 24.8.1909, t.5</ref> Disgrifiodd ei hun fel ffarmwr a thafarnwr. Dyn o Lanllyfni ydoedd, a aned tua 1869; Cymro uniaith ydoedd, er bod ei wraig Magi â gallu yn y ddwy iaith.[9] Roedd y teulu’n dal yn y dafarn ym 1918 pan hysbysodd y cyhoedd trwy gyfrwng nodyn yn y papur lleol ei fod o ac Owen Jones arall, ffarmwr Glan’rafon gerllaw’r dafarn, yn mynd i godi’r pris am wasanaeth eu baedd i 4 swllt![10]

Cyfeiriadau

  1. Map a Rhestr Bennu’r Degwm, plwyf Clynnog Fawr, 1845
  2. Cyfrifiadau plwyf Clynnog, 1841-71
  3. Wrexham and Dendighshire Advertiser, 2.1.1880, t.7; North Wales Express, 1.10.1880, t.8
  4. Caernarvon and Denbigh Herald, 9.7.1881
  5. Cyfrifiad plwyf Clynnog 1891
  6. Gwalia, 14.8.1900, t.7; North Wales Express, 3.7.1903, t.5
  7. Yr Herald Cymraeg, 27.2.1906, t.8
  8. Gwalia, 8.2.1909, t.4
  9. Cyfrifiad plwyf Clynnog 1911
  10. Yr Herald Cymraeg, 30.4.1918, t.1