Pandy Llanllyfni

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Roedd Pandy Llanllyfni yn bandy neu felin bannu. Pannu yw'r broses o drin brethynnau wedi'u gweu er mwyn i'r defnydd fod yn orffenedig a'r gwehyddu'n glos a llyfn. Safai'r pandy hwn ar Afon y Felin yn y caeau i'r dwyrain o bentref Llanllyfni, ac mae ei fodolaeth yno'n tystio i lewyrch y diwydiant gwlân yn Nyffryn Nantlle yn y dyddiau a fu.

Mae cofnodion y Cyfrifiad yn dangos bod y pandy hwn yn gweithio yn ystod y blynyddoedd 1841-1881, ac mae'n debyg ei fod yno cyn 1841 er nad yw'r cofnodion sydd wrth law yn cadarnhau hynny. Roedd y pandy'n dal yno ym 1881 ond erbyn 1891 nid oes sôn bod neb yn byw nac yn gweithio yno. Ym 1841 roedd Owen Evans, pannwr 25 oed yn byw yno, ac yntau oedd yno ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Erbyn 1861, roedd Owen Evans wedi gadael, ac Elias Jones, 56 oed, oedd y pannwr. Roedd hwnnw'n dal yno'n pannu, yn ŵr 76 oed, ym 1881.[1]

Nid yw'r cyfrifiadau'n rhestru pannwr arall yn y cylch yn ystod y cyfnod, hyd yn oed yn fferm Pandy Hen gerllaw, nac ychwaith yn yr eiddo a elwid yn Hen Bandy ger y Felin Gerrig. Tybed a yw hyn yn golygu bod un pandy'n ddigonol ar gyfer trin y carthenni a wnaed yn y cylch.


Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1841-1891