Pandy Glynllifon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Safai Pandy Glynllifon ar lethr ddeheuol cwm yr afon tua 200 llath o blasty Glynllifon, ac mae yna olion o gafn neu ffrwd melin yn y coed. 'Gwerny Felin' yw enw'r darn o goedwig ym Mharc Glynllifon[1] sydd bellach yn cuddio olion y pandy. Gan fod cryn dirlunio wedi digwydd yn ardal y Cwm Coed ers canol y 18g, dichon i'r felin gau fel melin weithredol tua 250 o flynyddoedd yn ôl. Mae'n debyg i'r murddyn gael ei gadw i ychwanegu at awyrgych 'rhamantaidd' yr ardd.

Pwrpas pandy oedd pannu, neu olchi, gwasgu a gorffen, gwlanen ar ôl iddo gael ei nyddu er mwyn creu deunyddiau llyfn a thyn. Nid oes sicrwydd o ble ddaeth y gwlanen, ond o bosibl roedd yn gwasanaethu tenantiaid yr ystâd yn gyffredinol.

Mae rhywfaint o le i gredu fod disgynnydd Edmund Glynn, efallai ei or-ŵyr, oedd yn cadw'r pandy ar ganol y 18g, a hynny cyn i'r parc presennol gael ei wahanu oddi wrth dir amaethyddol yr ystad.[2] Mae'n sicr, beth bynnag, mai un Thomas Griffith (tad Dafydd Ddu Eryri oedd y pannwr rywbryd o gwmpas 1740-50.[3]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Map Ordnans 6" i'r filltir, Gol.1af, 1888)
  2. Gwybodaeth bersonol oddi wrth W Alister Williams
  3. Y Bywgraffiadur Cymreig (Llundain, 1953) t.883