Owen Jones, Gwredog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Yr oedd Owen Jones (fl.1840-50), a hanai o’r Gwredog sydd yn nyffryn Afon Gwyrfai, plwyf Llanwnda, (er yn agos at bentref Y Waunfawr), yn berchennog chwareli llechi yn nyffryn Afon Lehigh, Pennsylfania. Mae’n debyg iddo ymfudo o Gymru rywbryd cyn 1841, gan ymsefydlu yn ardal Slatington yn Sir Lehigh.

Yno ym 1845 fe ddarganfu wythïen gyfoethog o lechi uwchben Afon Lehigh ar y bryn gyferbyn â Welshtown. Daeth y wythïen yn adnabyddus fel “Gwythïen y Dref Gymreig (neu'r Welsh Town Vein). Wedi iddo brofi ei gwerth, ffurfiodd bartneriaeth gyda Chymro arall, William Roberts, a oedd eisoes yn rhedeg chwarel gerllaw. Cymerodd y ddau brydles ar y tir am 15 mlynedd gan y perchennog, Jonas Kern, un o arloeswyr datblygu’r ardal a pherchennog llawer o dir yn y dyffryn. Galwyd y chwarel hon yn Chwarel y Twnnel (Tunnel Quarry) ac fe’i gweithiwyd tan 1866.[1]

Fe ddychwelodd i Gymru rywbryd wedi hynny i geisio perswadio ei gydwladwyr bod cyfleoedd yn ardal Slatington. Dychwelodd i’r Unol Daleithiau gyda nifer o chwarelwyr, llawer ohonynt o ardal Deiniolen, gan droi Slatington yn dref fwy Cymreig ei naws. Sefydlwyd capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Slatington ym 1847.[2] Erbyn 1847, roedd Owen Jones wedi agor ail chwarel yn Danielsville, sef Chwarel Little Gap, a hynny rai milltiroedd i ffwrdd; cafodd bartner arall, Owen Williams, ar gyfer y fenter hon.[3] Serch hynny, gwerthodd brydles Little Gap i Charles Daniels ym 1848[4] – ffaith sy’n awgrymu bod Owen Jones yn rhyw fath o gyfalafwr a datblygwr yn hytrach na chwarelwr erbyn hynny.

Ar ôl nifer o flynyddoedd, gwerthodd draean o gwmni Cwarel Twnnel i ddyn o’r enw Robert McDowell (a oedd wedi bod yn berchen ar chwareli llechi eraill yn yr ardal er 1831), ac ym 1858 dychwelodd Owen Jones i Gymru i nôl ei deulu. Trodd wedyn hynny at redeg busnes masnachu llechi. Arhosodd y teulu am rai blynyddoedd yn ardal Slatington, cyn symud i Danielsville, Pa. lle cafodd Owen Jones ei ladd mewn damwain pan syrthiodd craen ar ei ben.[5]

Nid yw wedi bod yn bosibl darganfod dyddiadau geni a marw Owen Jones. Mae gormod o fedyddiadau rhai o'r enw Owen Jones yng nghofrestr plwyf Llanwnda a chofrestrau anghydffurfiol y cylch, ac nid yw’r un o’r rheiny o Wredog, fel na ellir canfod dyddiad ei eni. Dichon i’r teulu fod yn byw yn rhywle arall ar adeg ei eni, gan symud i Wredog wedyn. Gellir tybio, fodd bynnag, ei fod wedi ei eni rywbryd tua 1810-1820 a marw rywbryd ar ôl 1858. Gellir tybio ymhellach mai un o’r tri thŷ a elwid y pryd hynny’n Wredog - Gwredog Uchaf, Isaf a Bach (neu Gwredog Tan'rallt) - yw’r lle a gyfrifid ganddo’n gartref, gan mai “Owen Jones, Gwredog” oedd y dull o gyfeirio ato yn y ffynonellau Americanaidd.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Sean a Johanna Billings, Slatington, Walnutport, and Washington Township (Charleston SC, 2006),t.96
  2. Bob Owen, Yr Ymfudo o Sir Gaernarfon i’r Unol Daleithiau, ii, (Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.14 (1952)), tt.58-9; a iii (op.cit., Cyf.15 (1953)), t.51.
  3. F.M. Hower, History of the Slate Industry, mewn taflen Hower’s Lightning Slate Reckoner (Cherryville, Pa., 1888), tt.2-3.
  4. Gwefan Lehigh Valley History, [1], cyrchwyd 20.7.2022
  5. Alfred Mathews & Austin N.Hungerford, The History of the Counties of Lehigh & Carbon, Commonwealth of Pennsylvania, (Philadelphia, Pa., 1884), tt.557-8