Owen Griffith Owen (Alafon)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Owen Griffith Owen (1847-1916), a fabwysiadodd y ffugenw Alafon, yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Neiniolen. Cafodd ei eni yn y Pant-glas,. lle roedd ei dad yn cadw tafarn, ond syudodd wedyn i fyw gyda modryb pan oedd yn 12 oed i bentref Carmel. Cychwynnodd weithio yn Chwarel lechi Dorothea, ac wedyn aeth yn glec i Chwarel lechi'r Braich gerllaw. Bu'n flaenor yng Nghapel Carmel o 1874 ymlaen ac ym 1876 cychwynnodd bregethu.[1]

Yn fuan wedyn ddechreuodd astudio ar gyfer y weinidogaeth yn Ysgol Ragbaratoawl Clynnog Fawr, cyn symud i Goleg a Bala. Astudiodd ym Mhrifysgol Caeredin am gyfnod hefyd er na chymerodd radd. Derbyniodd alwad i gapel Ysgoldy, Llanddeiniolen a lle bu gydol ei yrfa. Roedd ganddo enw o fod yn gymeriad addfwyn a bonheddig iawn ac yn gadarn ei athrawiaeth er nad oedd yn bregethwr mawr. Roedd yn gyfaill mawr i Robert Williams-Parry.[2]

Ymroddodd i farddoni, gan ddod yn ail i T.Gwynn Jones am awdl yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1902, ar y testun Ymadawiad Arthur, ac fe'i cyhoeddwyd yr un flwyddyn ar y cyd â phryddest anffuddugol W.J. Gruffydd. Ymysg ei lwyddiannau barddonol eraill oedd y cywydd Mynachlog Ystrad Fflur a enillodd y gystadleuaeth am gywydd yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain,1909.[3]

Bu'n olygydd Y Drysorfa, 1913-16. Cyhoeddodd dwy gyfrol, Cathlau Bore a Nawn, barddoniaeth (1912); a Ceinion y Gynghanedd, ysgrifau, (1915).

Bu farw 8 Chwefror 1916, wedi taro'n ddrwg gan y crydcymalau. Fe'i gladdwyd ym mynwent Bryn'rodyn, ac mae cofeb sylweddo iddo i'w weld yno ger y giât.[4]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.


Cyfeiriadau[golygu]

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaieth Arfon, Cyf.1, (Caernarfon, 1910), t.249.
  2. Ceir teyrngedau sylweddol iddo yn Y Cymro (Lerpwl) ar gyfer 16 Chwefror 1916, [1]
  3. Catalog Casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, [2]
  4. Y Bywgraffiadur Cymreig, (Llundain, 1953), t.676.