Nod Beuno

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Roedd Nod Beuno yn farc arbennig ar loeau ac ŵyn a ddangosai, yn ôl traddodiad, eu bod yn eiddo i Feuno Sant. Ar 24 Hydref 1827, ychydig fisoedd ar ôl iddo symud i fyw i Glynnog i gadw ysgol, anfonodd Eben Fardd lythyr diddorol at ei gyfaill John Thomas (Siôn Wyn o Eifion), a drigai yn Chwilog.[1] Roedd Eben eisoes mae'n amlwg yn ymddiddori yn hanes a thraddodiadau pentref Clynnog lle byddai'n treulio gweddill ei oes. Yn y llythyr at Siôn Wyn mae Eben yn dyfynnu o waith yr hynafiaethydd William Camden (1551-1623), a ymwelodd â Chlynnog yn ystod ei deithiau o amgylch Lloegr a Chymru yn chwarter olaf yr unfed ganrif ar bymtheg. Cyhoeddodd hanes ei deithiau, a hynafiaethau cysylltiedig â'r ardaloedd yr ymwelodd â hwy, yn ei gyfrol enfawr Britannia (1586). Yn Lladin yr ysgrifennodd Camden yn wreiddiol, ond cyfieithwyd ei waith i'r Saesneg yn ddiweddarach. Wrth ymdrin â Chlynnog, cyfeiria Camden at y cyfnod cyn y Diwygiad Protestannaidd, pan oedd Clynnog yn fynachlog neu 'glas' dan arweiniad abad. Bryd hynny, meddai, dygid lloeau ac ŵyn gyda Nod Beuno arnynt i Gapel Beuno, a oedd yn gysylltiedig â'r brif eglwys, a'u gadael yn rhodd naill ai i'w gwerthu at dreuliau'r eglwys neu i'w cadw gan yr abad. Dywed Camden ymhellach fod y traddodiad hwn yn parhau pan ymwelodd ef â Chlynnog, ond ar raddfa lai, gan nad oedd hen ddefodau ac ofergoelion a gysylltid â'r ffydd Babyddol bellach yn dderbyniol dan y drefn Brotestannaidd newydd dan Elizabeth I. Fodd bynnag, roedd ambell i lo neu oen yn dal i gael eu rhoi i Wardeniaid yr Eglwys meddai Camden, gyda'r arian a geid wrth eu gwerthu yn cael ei roi yn yr hen gist fawr, Cyff Beuno, sydd i'w gweld yng Nghapel Beuno hyd heddiw.

Yn ystod blynyddoedd olaf ei oes cyhoeddodd Eben Fardd lyfr bychan sy'n ymdrin â hynafiaethau a thraddodiadau ardal Clynnog, ynghyd ag achau rhai o deuluoedd bonheddig yr ardal. Cyff Beuno ddewisodd Eben yn deitl i'r gyfrol hon ac mae'n ymdrin â Nod Beuno ynddi, gyda'r manylion yn debyg iawn i'r hyn a nodwyd yn y llythyr uchod a anfonodd at Siôn Wyn o Eifion flynyddoedd lawer ynghynt.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Ceir y llythyr yn y gyfrol Adgof Uwch Anghof, sef Hen Lythyrau, Casgledig gan Myrddin Fardd, (Pen-y-groes, 1883), tt.211-14.