Neuadd a Sgwâr y Farchnad, Pen-y-groes

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Neuadd y Farchnad, Pen-y-groes)
Jump to navigation Jump to search
Llun:David Medcalf

Codwyd Neuadd y Farchnad ym mhentref Pen-y-groes tua 1867 ar dir Ystad Bryncir. Dyma'r adeilad, efallai, a gadarnhaodd Pen-y-groes fel pentref sylweddol ac yn ganobwynt Dyffryn Nantlle yn hytrach na phentref Llanllyfni.[1] Bu'n fan cyfleus i gynnal cyngherddau yn ogystal â marchnad.[2]

O'r Neuadd hon y cychwynnodd 2000 o ferched ar eu Gorymdaith y Merched dros Heddwch ym 1926.[3]

Ail-enwyd y neuadd yn Neuadd Goffa Pen-y-groes wedi iddi gael ei hymestyn yn sylweddol trwy adeiladu ail ystafell fawr a mynedfa newydd. Fe'i hagorwyd ar ei newydd wedd ym 1933. Mae'r adeilad bellach yn wynebu safle Gorsaf reilffordd Pen-y-groes yn hytrach na'i fod yn amlwg o ganol y pentref. Gwelir elfennau (digon amrwd) o arddull adeiladu'r cyfnod yn yr estyniad, yn arbennig yr arysgrif uwchben y brif fynedfa.

Y tu allan, ar ganol Sgwâr y Farchnad, y mae cofeb ryfel y pentref gydag englyn enwog R. Williams Parry arni:

   O Gofadail gofidiau tad a mam!
      Tydi mwy drwy'r oesau
    Ddysgi ffordd i ddwys goffáu
    Y rhwyg o golli'r hogiau.

Cafwyd grantiau loteri ar ddechrau'r 2010au i adnewyddu'r adeilad, a defnyddir y neuadd a'i dwy brif ystafell, parlwr a chegin ar gyfer sawl gweithgaredd ar hyn o bryd, gan gynnwys Sioe Arddio, ffeiriau, prydau cymunedol, dosbarthiadau a darlithoedd.

Market Stores, Pen-y-groes.jpg

Mae'r darn trionglog o dir o flaen y Neuadd Goffa yn dal i gael ei alw'n Sgwâr y Farchnad. Erbyn hyn, gyda'r orsaf reilffordd wedi diflannu a chanol y pentref wedi encilio i'r Stryd Fawr, nid oes ond siop sglodion a thafarn Yr Afr ger yr hen sgwâr prysur, lle gynt yr oedd nifer o siopau, yn cynnwys fferyllydd, siop esgidiau Tommy Herbert a siop emwaith ac oriaduron Gwilym Thomas.[4], a hynny o fewn cof rhai nad ydynt yn hen. Ar gyfnod ychydig yn gynharach, yr oedd siop nwyddau haearn, Market Stores yn gyrchfan i geisio pob math ar nwyddau, o feisiclau i lampau. Caewyd honno ym 1928.[5]


Cyfeiriadau

  1. Gwefan Dyffryn Nantlle, 20-20 [1], cyrchwyd 26.3.2021
  2. Y Dydd, 19.6.1868, t.13
  3. Plac ar yr adeilad
  4. Gwybodaeth ac atgofion personol
  5. London Gazette, 18 Medi 1926, t.6147