Neuadd Y Groeslon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Neuadd Y Groeslon yn sefyll ar allt y pentref.[1]

Bu'r neuadd yn ganolfan werthfawr i'r pentref o'r dechreuad. Ar ôl diwedd y rhyfel cyntaf y penderfynwyd cael neuadd neu 'institiwt', fel rhyw fath o goffád i'r rhai a gollasid yn y rhyfel 1914-1918. Prynwyd darn o dir gan Ystad Glynllifon a bu nifer o ddynion yn ei baratoi a chario cerrig. Wedyn prynwyd hen gwt gan y fyddin o Barc Cinmel am £25. Cwt sinc ydoedd gyda dau le tân glo i'w gynhesu ar y dechrau. Rhoddwyd llawer o'r cadeiriau pren yn rhodd gan y pentrefwyr. Ym misHydref, 1927 prynwyd bwrdd biliards am £66. ‘Roedd yr ystafell biliards ar agor o chwech o'r gloch hyd ddeg a byddai'n llawn bron bob nos. Tâl aelodaeth y clwb oedd 2s ond gan fod nifer yn ddi-waith fe'i gostyngwyd i swllt ym 1932. Y tâl am chwarae oedd tair ceiniog am hanner awr. Er bod y dull o gynhesu wedi newid I drydan ymhen rhai blynyddoedd 'roedd hi'n oer iawn yno; eto 'roedd defnydd cyson yn cael ei wneud ohoni. Ym 1938 dechreuwyd sôn am gael neuadd newydd ond daeth y rhyfel, felly ym 1945 yr aed ati o ddifrif i drafod a phwyllgora. O'r diwedd mentrwyd codi neuadd newydd yn costio tua £3,000. Y pensaer oedd Robert Pierce o Gaernarfon a gwnaed yr adeiladu gan adeiladwyr lleol Jones & Owen. Nos Fercher, Medi 16, 1953, am saith o'r gloch, agorwyd y neuadd newydd. Yn annerch y cyfarfod yr oedd Syr Ben Bowen Thomas; Mr John Gwilym Jones; y Fonesig Megan Lloyd George a Mr Mansel Williams; cafwyd cyngerdd gan artistiaid lleol a chanwyd emyn o eiddo Mr R. H. Griffith, yr oedd newydd ennill arni yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn ystod y cyfarfod cyflwynodd y Pensaer agoriad y neuadd i'r llywydd Mr Alwyn Hughes-Jones. Bu Mr Alwyn Hughes-Jones yn llywydd y neuadd o 1947 hyd 1981 ac ar wahân i roi o'i amser a'i frwdfrydedd cyfrannodd yn hael iawn i goffrau'r neuadd trwy fuddsoddi a hefyd drwy dalu'r llogau ar y ddyled.Yn wir fe weithiodd nifer fawr o'r pentrefwyr yn ddiflino am flynyddoedd er mwyn codi arian i dalu am y neuadd.

Cofebion o flaen y Neuadd

Yn addas, fel sefydliad a ddechreuodd fel modd i goffáu'r rhai a laddwyd yn y ddau Ryfel Byd, mae placiau coffáu a ddaeth o gapeli Bryn'rodyn a Brynrhos wedi eu gosod o flaen y Neuadd wedi i'r capeli gau yn 2018.

Gweithgareddau'r Neuadd[golygu]

Gellir rhestru rhai o'r gweithgareddau sydd wedi bod yn y Neuadd dros y blynyddoedd:

  • Cyngherddau, dramâu, gyrfaon chwist, arwerthiannau gwaith, carnifal a mabolgampau.
  • Clwb Biliards 1927-1960.
  • Cymdeithas ddrama.
  • Dosbarth Cymraeg i bobl ifanc. Cymdeithas gorawl gyda Mr Rowland Thomas, Y Post. Byddent yn cyfarfod bob nos Sul a bob nos Iau ac yn dysgu gweithiau fel y Messiah a Judas Maccabeus ar gyfer mynd I Ŵyl Harlech yn y 1920au.
  • Y Blaid Genedlaethol.
  • Dangos Ffilmiau am gyfnod yn y pumdegau.
  • Dawnsfeydd yn fisol yn y chwedegau. Aelwyd yr Urdd Y Groeslon gydag Emrys Price-Jones, Elwyn Jones- Griffith ac Arthur Evans.
  • Clwb Badminton o 1972-1981.
  • Clwb Ieuenctid l987-1991 o dan ofal Hywel Williams a Bryn Williams.
  • Sioe Gwningod am rai blynyddoedd yn yr wythdegau o dan ofal Kenneth Pritchard.
  • Clinig Plant hyd 1971.
  • Sefydliad y Merched Y Groeslon o 1931-1995]].
  • Clwb Garddio’r Groeslon a’r Sioe, 1941 ymlaen.
  • Dosbarth Cymdeithas Addysg y gweithwyr o tua 1941 ymlaen.
  • Y Bytholwyrdd, 1957 ymlaen.
  • Clwb y Gwragedd Ifanc, 1975-80.
  • Merched y Wawr Y Groeslon, 0 1977 ymlaen.
  • Y Groes Goch yn y 1950au.
  • Eisteddfod Y Groeslon o 1965 ymlaen.
  • Ysgol Feithrin Y Groeslon o 1974 ymlaen
  • Dechrau'r Clwb Snwcer ym 1983.
  • Dosbarth gwaith lledr 1988.
  • Dosbarth cadw'n heini 1988.
  • Dechrau Bowlio dan do o 1992.
  • Cylch Ti a Fi 1991.
  • Clwb Karati 1991.
  • Dawnsio Llinell 1998-1999.
  • Y fenter ddiweddaraf yw’r sesiynau I ddysgwyr sy’n cael eu trefnu gan bwyllgor y Neuadd, a ddechreuodd yn 2018.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Sail yr erthygl hon yw testun llyfr Hanes Y Groeslon (Caernarfon, 2000), tt.95-105