Nantlle (pentref)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae Nantlle yn bentref chwarelyddol yn Nyffryn Nantlle, rhwng Tal-y-sarn a Drws-y-coed.

Dechreuadau[golygu]

Yn wreiddiol, fe arferid galw'r ardal lle saif y pentref heddiw yn "Baladeulyn", gan fod y cysylltiad (neu'r "bala") rhwng Llyn Nantlle Uchaf a Llyn Nantlle Isaf gerllaw, a ffermydd a safle llys y Tywysogion, sef Llys Baladeulyn oedd yn yr ardal. Dywedir mai tŷ a elwid yn "Nantlle" neu "Plas-yn-Nantlle" tua 1362 a roddodd yr enw i'r pentref yn y pen-draw, er nad oedd hynny'n digwydd am fwy na phedwar can mlynedd. Mae'r adeilad presennol a elwir yn Plas Nantlle neu Tŷ Mawr wedi codi yn weddol gynnar yn y 16g.[1] Fferm oedd Plas Nantlle yn y diwedd, ond yr oedd gan yr eiddo felin, sef Melin Nantlle oedd yn malu grawn yn yr 18g os nad yn hwyrach, er iddi ddiflannu erbyn hyn ac nid oes sicrwydd ynglŷn â'i safle. Roedd tir Plas Nantlle neu Nantlle'n fferm fawr yn eiddo'r Arglwydd Dinorben o Ginmel erbyn llunio'r Map Degwm tua 1840, yn ffinio'r ddau lyn ac yn ymestyn dros y tir lle mae'r chwareli'n awr, hyd at safle bresennol pentref y Fron. Mae'r map hefyd yn dangos nad oedd ond un neu ddau o adeiladau'r holl ffordd rhwng fferm Gelli-ffrydiau a Thŷ Mawr[2]

Y pentref modern[golygu]

Datblygwyd y pentref modern yn ystod y 19g. fel yr oedd y chwareli'n ymestyn i fyny'r dyffryn. Chwarel fawr y pentref yw Chwarel Pen-yr-orsedd, a gysylltwyd â'r cei yng Nghaernarfon mor gynnar â 1828 gan drac cul Rheilffordd Nantlle, tramffordd gyda'r gwagenni'n cael eu tynnu gan geffylau. Parhaed i ddefnyddio'r hen dramffordd i Nantlle hyd 1963, pan y'i caewyd gan Reilffyrdd Prydeinig. Ni lledwyd y trac erioed gyda'r canlyniad fod y trenau stêm modern byth wedi cyrraedd, gan fod y lein fawr yn dod i ben yn Nhal-y-sarn - er mai Gorsaf reilffordd Nantlle y gelwid yr orsaf yn y pentref hwnnw. Dyna arwydd fod peth ansicrwydd ynglŷn â'r enwau priodol ar gyfer pentrefi'r dyffryn wedi dal i fodoli. Yn wir, mor ddiweddar â 1916, roedd papur newydd y Dinesydd Cymreig yn rhoi hanesion am bentref Nantlle dan y bennawd "Baladeulyn".

Rhwng 1840, pan nad oedd y map degwm wedi dangos nemor ddim adeiladau lle saif y pentref heddiw ac 1888, pan gyhoeddwyd y map Ordnans graddfa fawr cyntaf o'r ardal, codwyd y rhan fwyaf o'r pentref rhwng y chwarel a Phont Baladeulyn, er nad oedd y tai'n nes at yr ysgol wedi eu codi.

Y brodyr Francis[golygu]

Gweler prif erthygl Y Brodyr Francis

Cyfeiriadau[golygu]

  1. John Dilwyn Williams, Tŷ Mawr, yn "Adroddiad Prosiect Dendrocronoleg Gogledd Cymru", 2012
  2. LLGC Map Degwm plwyf Llandwrog [1]