Nancall

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Nantcall)
Neidio i: llywio, chwilio

Sonnir am Nancall yn hanes Math fab Mathonwy yn y Mabinogion.[1] Yn ddiweddarach, Nancall oedd enw trefgordd a oedd yn eiddo eglwysig o ddyddiau'r Tywysogion hyd ddiddymiad y mynachlogydd ym 1536; fe'i rhoddwyd i Abaty Aberconwy gan Llywelyn Fawr tua 1200. Yr oedd Dr Colin Gresham yn credu mai rhan o Eifionydd ydoedd yn wreiddiol ond bod y tir wedi ei gynnwys ym mhlwyf Clynnog Fawr ac felly wedi cael ei gambriodoli i gwmwd Uwchgwyrfai, er bod rhai haneswyr yn anghytuno.[2] Gan ei bod o fewn ffiniau plwyf Clynnog ers canrifoedd fodd bynnag, penderfynwyd ei chynnwys o fewn maes Cof y Cwmwd.

Ffiniau Nancall oedd yr Afon Call i'r gogledd a'r Afon Faig i'r dwyrain a'r de. Cyrhaeddodd gopa Mynydd Craig Goch. Y ffin orllewinol oedd Afon Dwyfach, o'r pwynt lle mae'r Afon Faig yn aberu efo'r Ddwyfach ger Pont Tafarn-faig, gan redeg ar hyd y Ddwyfach i gyfeiriad y gogledd nes gyrraedd Aber Call, nid nepell o safle hen orsaf reilffordd Pant-glas.[3]

Dichon mai Hendre Nancall yw safle'r anheddiad gwreiddiol ond erbyn hyn mae'n cynnwys tiroedd y pedair fferm sy'n rhannu'r enw Nancall ynghyd â hen fferm Tai Duon. Yr un cyntaf y gwyddys amdano i ffermio Nancall oedd John ap Ednyfed; cafodd hwn brydles 99 mlynedd gan Geoffrey Kyffin ("Yr Abad Coch"), Abad Aberconwy, ym 1517. Wedi diddymiad y mynachlogydd, cadwyd at delerau'r brydles am weddill ei thymor.

Parhaodd Nancall yn drefgordd ar wahân hyd y cyfnod modern. Ar ôl cau'r mynydd ym 1812, symudodd ffin Nancall (a phlwyf Clynnog Fawr) o lan yr Afon Faig i'r wal gerrig a godwyd fel ffin yr adeg honno.[4]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Colin Gresham, The Aberconwy Charter, (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939), t.139
  2. Colin Gresham, Eifionydd (Caerdydd, 1973), t.xiv, n.1
  3. Colin Gresham, The Aberconwy Charter, (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939), t.138-9
  4. Colin Gresham, Eifionydd (Caerdydd, 1973), tt.301-3