Nant y Tywarchlyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Ymddengys mai enw Dyffryn Nantlle, (neu'r enw ar ran uchaf y dyffryn hwnnw) yn y Canol Oesoedd oedd Nant y Tywarchlyn, sef dyffryn yn rhedeg i gyfeiriad y tir isel o lan Llyn y Dywarchen. Yn yr achos hwn, ystyr "nant" yw dyffryn, fel yn Nantlle, Nantgwynant neu Nant Gwrtheyrn. Meddir fod brenin Lloegr, Iorwerth I, wedi treulio peth amser yma ym 1283 cyn symud i lawr y dyffryn at y llys dywysogol, sef Baladeulyn.[1]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W.R. Ambrose, ‘’Nant Nantlle’’ (Pen-y-groes, 1872), t.23-4