Mynwent y Bedyddwyr Albanaidd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae Mynwent y Bedyddwyr Albanaidd, neu "Mynwent Bara Chaws", yn hen fynwent yn perthyn i enwad bach y Bedyddwyr Albanaidd a oedd yn hynod uniongred ac a oedd â chapel yn Llanllyfni, sef Capel Tŷ'n Lôn. Daw'r llysenw ar y fynwent o'r llysenw dilornus ar yr enwad, sef "Bedyddwyr Bara a Chaws", oherwydd eu harfer o deithio o bell i fynychu gwasanaethau ac felly'n dod â bwyd gyda nhw i'w fwyta mewn ystafell yn y capel.

Mae'n bosibl mai hen fynwent y Crynwyr neu anghydffurfwyr eraill oedd y tir i gychwyn, gan fod ambell i garreg fedd yno yn dyddio'n ôl i 1700, bron i ganrif cyn cychwyn achos y Bedyddwyr ar y safle. Ymysg y rhai sydd wedi eu claddu yno'n ddiweddarach y mae'r Hen Ddoctor Mynydd, sef David Thomas Jones, a hynny wedi i'r achos ei hun ddirwyn i ben. Yn ei ewyllys gadawodd dŷ, sef Brynsisyllt, Llanllyfni, i'w osod, gyda'r rhent o £3.10.0c yn mynd at gynnal ei fedd o a beddau'r teulu, ac at gynnal y fynwent yn gyffredinol. Bu ymgyrch wedyn tua 1905 i gasglu arian at gynnal y fynwent. Nid yw'n amlwg pwy yw perchnogion y fynwent bellach, ond mae ymdrechion cymunedol wedi llwyddo i'w chynnal yn ddiweddar.[1]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Sylwadau O.P. Huws ar wefan Dyffryn Nantlle, [1], cyrchwyd 22.4.2021