Mynwent Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Agorwyd Mynwent Trefor ym 1926. Am genedlaethau mynwent Eglwys Sant Aelhaearn, Llanaelhaearn - mynwent y Llan - fu'r gladdfa arferol i drigolion Trefor (ac i ardal yr Hendra cyn sefydlu'r pentref ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg) ac ni fu mynwent yn gysylltiedig â'r un o'r capeli anghydffurfiol a agorwyd yn Nhrefor nag ag Eglwys Sant Siôr, Trefor. Fodd bynnag, roedd awydd cael mynwent anenwadol i'r pentref ac ym 1926 agorwyd mynwent ar un o gaeau fferm Elernion ar boncen yn edrych i lawr dros y pentref. Codwyd mur o amgylch y "Fynwent Newydd", fel y'i gelwid, gan Rowland Rowlands, a fu'n stiward yn Chwarel yr Eifl. Y cyntaf i'w gladdu yno oedd Humphrey Jones, Ffordd yr Eifl, a laddwyd mewn damwain yn y chwarel ar Ddydd Gŵyl Dewi 1928 yn 51 oed. Yn ei lyfr Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl dywed Gwilym Owen mai ef gafodd y gwaith o agor y bedd cyntaf yn y fynwent. Ar ôl agor y bedd i tua'r hanner daeth i glai a buan y llanwodd â dŵr a chafwyd anhawster i'w gadw'n sych tan yr angladd.[1] Bu hon yn broblem gyson yn y fynwent ar hyd y blynyddoedd ac efallai'n un o'r rhesymau pam na fu defnydd helaeth arni. Hefyd gan mai yn Llanaelhaearn y claddwyd llawer o aelodau o'u teuluoedd ers cenedlaethau mae llawer o drigolion Trefor yn dal i gael eu claddu yno yn hytrach nag ym mynwent eu pentref genedigol. Yn wir, mae ambell un yn dal i gyfeirio at fynwent Trefor fel "y Fynwent Newydd".

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwilym Owen, Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl, (Penrhyndeudraeth, 1972), t.84.