Morris Williams (Meurig Wyn)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Chwarelwr a bardd gwlad oedd Morris Williams (1835-1876), a ddefnyddiodd y llysenw Meurig (neu Meirig) Wyn. Cafodd ei eni yng ngatws y Parciau, rhwng Caernarfon a'r Felinheli. Roedd ei dad, Richard Williams, yn hanu o Ynys Môn. Collodd ei rieni'n blentyn a symudodd i fyw at fodryb iddo yn ardal Bryn'rodyn, rhwng Dolydd a'r Groeslon. Dechreuodd farddoni'n ifanc gan gystadlu mewn mân eisteddfodau a chyfarfodydd llenyddol lleol, gan gael ei wobrwyo ar fwy nag un achlysur gan Eben Fardd. Am gyfnod bu'n byw yn Y Fron cyn symud i Dal-y-sarn.[1] Erbyn 1871 roedd yn byw yng Nghoetmor, Tal-y-sarn ac yn gweithio fel chwarelwr. Roedd ei wraig, Jane, a oedd flwyddyn yn iau nag ef, yn hanu o blwyf Clynnog Fawr, ac reodd ganddynt un plentyn, Jane, a aned ym 1859.[2]

Roedd yn chwarelwr wrth ei alwedigaeth ac yn ystod ei oes fer dywedir iddo fanteisio ar bob cyfle i'w ddiwyllio ei hun ac ehangu ei wybodaeth, er na chafodd unrhyw addysg ffurfiol yn ôl Y Goleuad[3]. Roedd yn grefyddwr selog ac yn athro Ysgol Sul. Ymddangosodd rhai darnau o'i waith mewn papurau newydd a chylchgronau yn ystod ei oes. Flynyddoedd lawer wedi ei farw cyhoeddwyd erthygl goffa amdano a detholiad o'i waith yn rhifyn Gorffennaf 1902 o Cymru.[4]

Dywedodd Y Dydd amdano: "Yr oedd Meurig Wyn yn ysgrifenwr galluog mewn rhyddiaeth a barddoniaeth. Ymddangosodd llawer o'i gyfansoddiadau llenyddol; a bu yn ohebydd i'r Herald Cymraeg am lawer o flynyddau." Ychwanegodd yr un adroddiad ei fod yn ŵr tra diymhongar ac yn gapelwr ffyddlon yn ei gapel, Capel Hyfrydle (MC), Tal-y-sarn, ac yn weithgar iawn gyda'r ysgol Sul yno. Bu farw 17 Ionawr 1876, gan gael ei gladdu ym mynwent Llandwrog Uchaf.[5]

Cyfeiriadau

  1. Y Goleuad, 25.3.1876, t.14, lle ceir byr-gofiant llawn amdano, yn pwysleisio ei ddawn lenyddol ond hefyd ei ansicrwydd personol a'i rhwystrodd rhag dod yn fwy amlwg.
  2. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1871
  3. loc. cit.
  4. Cybi, Beirdd Gwerin Eifionydd, (Pwllheli, 1914), t.17.
  5. Y Dydd, 28.1.1876, t.11