Morris Williams (Meirig Wyn)
Roedd Morris Williams (Meirig Wyn) (1836-1876) yn fardd gwlad a fu'n byw am gyfnod yn Nhal-y-sarn.
Fe'i ganwyd yn Giatws, Parciau, tŷ sylweddol ar gyrion Caernarfon. Collodd ei rieni'n blentyn a symudodd i fyw at fodryb iddo yn ardal Bryn'rodyn, rhwng Dolydd a'r Groeslon. Dechreuodd farddoni'n ifanc gan gystadlu mewn mân eisteddfodau a chyfarfodydd llenyddol lleol, gan gael ei wobrwyo ar fwy nag un achlysur gan Eben Fardd. Roedd yn chwarelwr wrth ei alwedigaeth ac yn ystod ei oes fer dywedir iddo fanteisio ar bob cyfle i'w ddiwyllio ei hun ac ehangu ei wybodaeth. Roedd yn grefyddwr selog ac yn athro Ysgol Sul. Ymddangosodd rhai darnau o'i waith mewn papurau newydd a chylchgronau yn ystod ei oes. Flynyddoedd lawer wedi ei farw cyhoeddwyd erthygl goffa amdano a detholiad o'i waith yn rhifyn Gorffennaf 1902 o Cymru.[1]
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ Cybi, Beirdd Gwerin Eifionydd, (Pwllheli, 1914), t.17.