Morgeneu Ynad

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Roedd Morgeneu Ynad yn fab i Gwrydr ap Dyfnaint ap Iddon, ac yn hen-hen-hen-hen-hen-ŵyr i sylfaenydd ei ach, sef Cilmin Droed-ddu - yn ôl yr achresi canoloesol beth bynnag. Brodyr iddo mae'n debyg oedd Cynddelw, taid Iorwerth Goch Ynad; Ednowain, tad Ystrwyth, prif glerc Llywelyn Fawr a thad cyff Teulu Glyn (Glynllifon); Caswallon; Philip, un o linach cynnar Bodfan; a Madog.[1] Roedd o'n aelod o deulu uchel ei barch a'i wybodaeth ym maes y gyfraith. Roedd yn cael ei gyfrif ymysg "Bonedd Gwŷr Arfon" ar ddechrau'r 13g., ac yn dal tir yn nhref Dinlle. Dyma'r adeg pan sefydlwyd tiroedd pob ach neu deulu estynedig, sef "gwelyau" a chafwyd un gwely ei enwi ar ôl Morgeneu, sef Gwely Wyrion Morgeneu.[2]

Yr oedd Morgeneu a'i fab Cyfnerth yn wybyddus iawn yn y gyfraith ac yn gyfrifol am wneud neu drefnu copïau o Gyfraith Hywel Dda fel yr oedd yn berthnasu i Ogledd Cymru (sef y "Dull Gwynedd"). Dichon, yn ôl W. Gilbert Williams, mai am hyn gafodd y teitl o Ynad.[3]

Gan fod ei or-gor-gor-gor-gor-wyres, Morfudd ap Howel ap Iorwerth Fychan wedi priodi Tudur Goch ap Grono, gan fynd â thiroedd Glynllifon gyda hi, mae lle i amau mai deilydd (os nad trigiannydd) Glynllifon ddwy ganrif ynghynt oedd Morgeneu.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]

  1. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt. 172, 176
  2. Dafydd Jenkins, "Iorwerth ap Madog - Gŵr Cyfraith o'r Drydedd Ganrif ar Ddeg" (Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyf.VIII 2, 1953), tt.164-5 [1]
  3. W. Gilbert Williams, ‘’Glyniaid Glynllifon’’ ((Trafodion Cym. Hanes Sir Gaernarfon, cyf.10 (1949)), t.33