Moel Penllechog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Moel Penllechog (a elwir hefyd yn Mynydd Tan-y-graig) yw'r mwyaf deheuol, a'r isaf, o dri chopa - y ddau arall yw'r Gurn Ddu a Gurn Goch. Mae Moel Penllechog yn 316 metr o uchder ac fel Gurn Ddu a Gurn Goch mae ochr orllewinol y mynydd, sy'n wynebu Bae Caernarfon, yn llawer mwy garw a serth na'i lechweddau dwyreiniol, sy'n wynebu Eifionydd. Yn wahanol i wyneb gorllewinol Gurn Ddu - lle'r agorwyd dwy chwarel ithfaen, sef Gwaith Tan-y-graig a Gwaith Tyddyn Hywel - ni fu unrhyw gloddio am gerrig ar Foel Penllechog. Saif fferm Penllechog ar lethrau de-orllewin y Foel, ar gyrion Llanaelhaearn, ac mae ei thir yn mynd i lawr o'r ffriddoedd uchel hyd at briffordd Pwllheli-Caernarfon. Rhwng fferm Penllechog a fferm Maes-y-cwm gerllaw iddi ceir olion hen leiniau amaethyddol o'r oesoedd canol - maent wedi eu nodi ar fap yr Arolwg Ordnans.[1] Hefyd mae enw diddorol ar un o gaeau Penllechog, sef Ynys Llywelyn - tybed beth yw cefndir yr enw hwn? Efallai y gall rhai o ddarllenwyr Cof y Cwmwd fwrw goleuni arno.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gweler map Explorer rhif 254 yr Arolwg Ordnans.