Carreg Melitus

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Melitus)
Jump to navigation Jump to search

Carreg fedd o'r cyfnod Cristnogol cynnar (tua'r 6ed ganrif) ym mynwent Eglwys Sant Aelhaearn, Llanaelhaearn yw Carreg Melitus.

Nid yw mor adnabyddus â Charreg Aliortus sydd wedi ei diogelu o fewn yr eglwys ei hun (gweler yr erthygl ar honno yn Cof y Cwmwd), ond mae'n haeddu sylw. Lwmp cadarn o garreg tir heb ei thrin, tua thair troedfedd o uchder, yw carreg Melitus ac mae i'w chael ar y dde wrth ochr y llwybr sy'n mynd o giât y fynwent at ddrws yr eglwys. Mae'r enw Melitus wedi ei dorri'n glir ar yr wyneb sy'n wynebu'r llwybr, er nad oes unrhyw arysgrif arall yn amlwg arni. Nid oes unrhyw sicrwydd ai hwn oedd lleoliad gwreiddiol y garreg, ond o ystyried bod cymaint o newidiadau wedi eu gwneud i'r eglwys ei hun ac i'r llwybrau o'i hamgylch dros y blynyddoedd, mae'n debygol iawn ei bod wedi cael ei symud i'w man presennol o'i safle gwreiddiol.

Ym mur y fynwent nid ymhell oddi wrth garreg Melitus ceir carreg gynnar arall ar ffurf croes a chylch o'i chwmpas, ond mae'n eithriadol o anodd i'w gweld erbyn hyn. Ceid amryw o gerrig o'r math yma ar lwybrau'r pererinion gynt. Yn lled ddiweddar roedd carreg debyg wedi'i chynnwys yn y wal ar yr allt sy'n mynd i lawr o Bistyll i Nefyn, ond ni wn a ydyw yno o hyd. (Dywedir fod hyd at bedair ohonynt i'w gweld ar y ffordd hon ar un adeg.) [1] Gelwid y cylch o gwmpas y groes ar y cerrig hyn yn "fesur y dorth", gan y byddai torthau o faint a ffitiai o fewn y cylch hwn yn cael eu paratoi ar gyfer y pererinion yn ôl y traddodiad a byddai gweld y cerrig hyn mewn gwahanol fannau ar y daith yn dangos i'r pererinion bod ymborth (a llety mae'n debyg) ar gael iddynt gerllaw.[2]


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Terry John a Nona Rees, Pilgrimage - A Welsh Perspective, (Llandysul, 2002), tt.143-157.
  2. Gwybodaeth bersonol