Melin Lleuar

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Ceir cyfeiriad at Felin Lleuar mewn dogfen dyddiedig 1674, lle mae'n cael ei rhestru ymysg eiddo Ystad Lleuar. Melin falu grawn ar lan afon oedd hi, ac mae'n debyg mai sefyll nid nepell o blasty Lleuar Fawr yr oedd hi ar yr Afon Llyfnwy, gan y disgrifir lleoliad y felin fel un ym mhlwyf Llanllyfni.[1] Nid yw safle Melin Glan-yr-afon ymhell, a safai ar lan ogleddol Afon Llyfnwy lle mae'n ffurfio ffin rhwng plwyfi Clynnog Fawr a Llanllyfni; ond rhaid disgwyl am dystiolaeth bellach cyn ystyried 'Melin Lleuar' a 'Melin Glan-yr-afon' fel yr un un. Dywedir i adeilad honno gael ei chodi tua 1774.[2] I gymhlethu pethau ymhellach, mewn dogfen o 1729, disgrifir lleoliad Melin Lleuar ('water corn grist mill') fel trefgordd Pennarth, sef un o drefgorddi Clynnog Fawr.[3]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Archifdy Gwynedd, XD2/7551.
  2. Manylion gwerthwr tai Dafydd Hardy, [1], cyrchwyd 02.08.2018
  3. Archifdy Gwynedd, XD2/7623.