Melin Forgan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio
Melin forgan 1.jpg
Melin forgan 2.jpg
Melin forgan 3.jpg

Mae Melin Forgan ar waelod ceunant Afon Llifon sy'n dod i lawr o gyfeiriad Maes Tryfan, rhai cannoedd o lathenni'n nes at y gwastatir na melin Ffatri Tryfan. Melin ŷd a grawn oedd Melin Forgan. Roedd cafn neu ffrwd felin yn cario dŵr o'r ceunant at yr olwyn.

Nid oes sicrwydd pwy oedd y Morgan dan sylw, ac mae'r cyfeiriad cynharaf sydd wedi dod i law yw cyfeiriad Dr Thomas Parry at un Robert Morris oedd yn felinydd ym 1802, pan gystadlodd ar yr awdl mewn eisteddfod yn Llanddeiniolen. Nodir mai William Williams oedd y melinydd adeg y map degwm ym 1840. Yn ôl cyfrifiad 1841, gelwir y lle'n Rhaeadr Llifon, gyda William Williams, ei wraig ac wyth o blant yn byw yno. Ym 1851, Richard Thomas oedd yn byw yno, ond Hugh Thomas oedd y melinydd. Ym 1861, roedd Daniel Eames yn ffermio yno ac roedd ef yn fasnachwr llwyddiannus a gyflogodd gariwr, sef Thomas Jones. Dywed traddodiad bod merched y Felin yn y cyfnod hwnnw yn gwisgo'n grand ac yn mynd i gapel Bryn'rodyn (MC) yn eu silks and satins!

Ym 1871, Owen Jones oedd y melinydd, yn gweithio i Daniel Eames, ond erbyn 1891, roedd y Felin yng ngofal ei weddw Frances a'i ddau fab, Owen a Richard. Erbyn 1899, ymddengys bod Frances wedi ail-briodi efo Thomas Jones, gweithiwr ym Melin Forgan. Bu farw Frances ym 1906 ac Owen ei mab fu yno hyd nes iddo symud i fyw i Benisarhos, Y Groeslon ym 1914.

O 1915, David E. Jones a'i deulu fu yn y Felin hyd nes ei farw ym 1923. Wedyn daeth Evan Roberts a Sarah ei wraig yno gan adael ym 1944, pan aeth Sais o'r enw Bazzard yno. Am ychydig iawn y bu ef yn malu ond bu'n marchnata a gwerthu gwair a gwellt am rai blynyddoedd, ac yn gwerthu llefrith o gwmpas yr ardal.

Mae'r Felin yn dal i sefyll ac olion yr olwyn ddŵr yno hefyd. Hefyd gellir gweld cwrs ffrwd y felin trwy'r ddôl gerllaw, er ei bod yn sych ers blynyddoedd. Roedd yno gae o'r enw Cae Mulod lle cedwid rhyw ddwsin o fulod ar gyfer cludo'r grawn a'r blawdiau.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Sylfaen yr erthygl hon yw'r paragraffau perthnasol allan o Hanes y Groeslon, (2000) gyda nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Defnyddiwyd y deunydd yma trwy ganiatâd golygyddion y gyfrol honno.